William Davies (Gwilym Teilo)
llenor, bardd a hanesydd
Bardd Cymraeg a hanesydd o Gymru oedd William Davies (1831 – 3 Hydref 1892), sy'n fwy adnabyddus wrth ei enw barddol Gwilym Teilo.
William Davies | |
---|---|
Ffugenw | Gwilym Teilo |
Ganwyd | 1831 Llandeilo |
Bu farw | 3 Hydref 1892 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, hanesydd |
Brodor o ardal Llandeilo, Sir Gaerfyrddin oedd Gwilym Teilo. Fel bardd a llenor, enillodd sawl gwobr mewn eisteddfodau, lleol a chenedlaethol.[1]
Fel hanesydd lleol ei sir enedigol y'i cofir yn bennaf erbyn hyn. Cyhoeddodd gyfrolau am hanes Llandeilo a'i gylch ac am hanes a hynfiaethau ardal Caio. Erys ei gyfraniad mwyaf heb ei gyhoeddi hyd yn hyn, sef traethawd hir ar 'Lenyddiaeth y Cymry' a fwriedid fel math o barhad o waith Thomas Stephens yn ei The Literature of the Kymry (1849), llyfr sy'n trafod llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol yn unig.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Llandilo-Vawr and its Neighbourhood (1858)
- Traethawd ar Caio a'i Hynafiaethau (1862)
- Gweithiau Gwilym Teilo, gol. P. H. Griffiths (cyhoeddwyd ar ôl ei farwolaeth)