Thomas Stephens

hynafiaethydd, beirniad llenyddol

Hanesydd, beirniad ac awdur Cymreig oedd Thomas Stephens (21 Ebrill 1821 - 4 Ionawr 1875). Fe'i cofir yn bennaf fel awdur y llyfr dylanwadol The Literature of the Kymry (1849).

Thomas Stephens
Ganwyd21 Ebrill 1821 Edit this on Wikidata
Sir Forgannwg Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ionawr 1875 Edit this on Wikidata
Merthyr Tudful Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhanesydd, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Merthyr Tydfil Subscription Library Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed ef ym Mhont Nedd Fechan, Morgannwg (de Powys heddiw), yn fab i grydd. Dim ond tua tair blynedd o addysg ffurfiol a gafodd, cyn mynd yn brentis i fferyllydd yn nhref Merthyr Tydfil yn 1835. Yn ddiweddarach daeth yn berchen ar y siop fferyllydd ac yn ŵr amlwg ym mywyd y dref; ef oedd prif sylfaenydd Llyfrgell Merthyr.

Daeth yn amlwg fel eisteddfodwr, ac yn Eisteddfod y Fenni yn 1848 enillodd wobr am draethawd ar lenyddiaeth Cymru yng nghyfnod y Gogynfeirdd. Hwn oedd sail ei lyfr diweddarch, The Literature of the Kymry. Yn Eisteddfod Fawr Llangollen yn 1858, collodd y wobr am draethawd ar ddarganfyddiad America gan Madog am fod ei draethawd ef yn casglu nad oedd gwir yn y chwedl; cyhoeddwyd hwn yn ddiweddarch.

Cyhoeddiadau golygu

  • The Literature of the Kymry (1849)
  • The History of the Trial by Jury in Wales
  • Orgraff yr Iaith Gymraeg (gyda Gweirydd ap Rhys) (1859)
  • Madoc: an Essay on the Discovery of America by Madoc ap Owen Gwynedd in the Twelfth Century (1893)

Cyfeiriadau golygu