William Gilbert (ffisegydd)
Meddyg, ffisegydd ac athronydd naturiol o Sais oedd William Gilbert (24 Mai 1544 – 30 Tachwedd 1603). Roedd yn gwrthwynebol i'r athroniaeth Aristotelaidd a'r dull Sgolastig o ddysgu. Fe'i cofir heddiw i raddau helaeth am ei lyfr De Magnete (1600).[1]
William Gilbert | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mai 1544 Colchester |
Bu farw | 30 Tachwedd 1603 o Pla Du Llundain |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, meddyg, peiriannydd, ffisegydd, seryddwr, naturiaethydd |
Tad | Jerome Gilberd |
Mam | Jane Wingfield |
Ganwyd Gilbert ar 24 Mai 1544 yn Colchester, Essex. Fe'i haddysgwyd yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt, gan ennill ei radd MD ym 1569. Roedd yn feddyg yn Llundain a theithio ar y Cyfandir. Yn 1573 daeth yn Gymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon, ac yn 1600 fe'i hetholwyd yn Llywydd y Coleg. Roedd yn feddyg personol i Elisabeth I ac i Iago I.
Ei waith gwyddonol pwysicaf oedd De Magnete, Magneticisque Corporibus, et de Magno Magnete Tellure ("Ynglŷn â'r magnet, cyrff magnetig, a'r magnet mawr y Ddaear"), a gyhoeddwyd ym 1600. Ynddo, mae'n disgrifio llawer o'i arbrofion gyda magnetau. Er enghraifft, mae'n disgrifio sut y gellir eu torri i ffurfio magnetau llai newydd gyda phob un â phegwn gogledd a phegwn de. Daeth i'r casgliad bod y Ddaear ei hun yn magnetig ac mai dyna'r rheswm pam mae cwmpawdau'n pwyntio i'r gogledd. Ef oedd y cyntaf i ddadlau bod canol y Ddaear wedi'i wneud o haearn. Yn ei lyfr mae hefyd yn disgrifio arbrofion gyda thrydan statig, a'i ddyfais o'r offeryn mesur trydanol cyntaf, nodwydd golyn o'r enw versorium.
Er bod De Magnete yn gyfraniad pwysig i'r Chwyldro Gwyddonol, gan roi pwyslais ar arsylwi uniongyrchol, roedd rhai o syniadau Gilbert yn ddiffygiol. Dadleuodd fod magnetedd a thrydan yn wahanol; tra dangosodd Hans Christian Ørsted a James Clerk Maxwell yn ddiweddarach eu bod yn agweddau ar un grym, sef electromagnetiaeth. Honnodd hefyd fod cwarts yn fath arbennig o galed o ddŵr.
Bu farw Gilbert ar 30 Tachwedd 1603 yn Llundain. Credir mai achos ei farwolaeth oedd y pla biwbonig.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Alan Hager (1997). Major Tudor Authors: A Bio-bibliographical Critical Sourcebook. Greenwood Press. t. 195. ISBN 978-0-313-29436-5.