William Henry Dines
Meteorolegydd Seisnig oedd William Henry Dines BA FRS (5 Awst 1855 – 24 Rhagfyr 1927).[1]
William Henry Dines | |
---|---|
Ganwyd | 5 Awst 1855 Llundain |
Bu farw | 24 Rhagfyr 1927 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | meteorolegydd |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Symons Gold Medal |
Ganwyd Dines yn Llundain, yn fab i George Dines,[2] a oedd hefyd yn feteorolegydd. Addysgwyd yn Ysgol Woodcote House, Windlesham, cyn mynychu Coleg Corpus Christi, Caergrawnt, lle derbyniodd radd dosbarth cyntaf mewn mathemateg ym 1881. Cyflawnodd o ymchwiliadau ar gyfer y Cymdeithas Meteoroleg Frenhinol ar bwnc egnïau gwynt, ac yn gytras â'r gwaith hwn, dyluniodd o'r anemomedr tiwb pwysedd. Ym 1901 cychwynnodd o ymchwil am broblemau'r awyrgylch uchaf, a dyluniodd neu perffeithiodd amrwy o offerynnau i'w defnyddio gyda barcudiaid, yn ogystal â ffurf o'r bwlch-farcud Hargraves, a brofodd i fod o werth fawr. Ym 1905 apwyntiwyd gan y Swyddfa Meteoroleg yn Gyfarwyddwr Arbrofion yn gytras ag ymchwiliau am yr awyrgylch uchaf, ac ym 1907 dyluniodd feteorograff i'w defnyddio gyda balwnau. Cynhyrchodd hefyd, ynghyd â Dr Napier Shaw, y meicrobarograff a baromedr mercwri oedd yn recordio, yn ogystal ag amryw o offerynnau eraill. Er na weithiodd erioed fel academydd llawn amser,[1] bu'n lywydd y Gymdeithas Meteoroleg Frenhinol rhwng 1901 ac 1902, ac ym 1905 etholwyd yn gymrawd y Gymdeithas Frenhinol. Roedd yn aelod o Gomisiwn Rhyngwladol Awyrennaeth Wyddonol, a daeth yn aelod anrhydeddus neu gohebol o amryw o gymdeithasau gwyddonol tramor. Mae'n awdur nifer o bapurau pwysig am feteoroleg yr awyrgylch uwch a gyhoeddwyd yn Transactions of the Royal Society, Geophysical Memoirs of the Meteorological Office a chyhoeddiadau eraill.
Roedd hefyd yn dad i John Somers Dines MA a Lewen Henry George Dines MA AMICE, dilynodd y ddau eu tad gan ddod yn feteorolegwyr.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 M.E. Crewe. The Met Office Grows Up: In War and Peace. Cymdeithas Meteoroleg Frenhinol.
- ↑ Dines, William (1855-1927). Archives in London and the M25 area.