William Herbert, 2il Iarll Penfro (1451–1491)
Iarll Penfro a ffigwr allweddol ar ochr plaid yr Iorciaid yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau yng Nghymru oedd William Herbert, ail Iarll Penfro (5 Mawrth 1451 – 16 Gorffennaf 1491) a mab William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469) ac Anne Devereux. Ei daid a'i nain ar ochr ei dad oedd William ap Thomas a Gwladys, merch Dafydd Gam; ei daid a'i nain ar ochr ei fam oedd Walter Devereux (1411–1459), Arglwydd Ganghellor Iwerddon ac Elizabeth Merbury.
William Herbert, 2il Iarll Penfro | |
---|---|
Ganwyd | 5 Mawrth 1455 |
Bu farw | 16 Gorffennaf 1491 |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Tad | William Herbert |
Mam | Anne Devereux |
Priod | Mary Woodville, Catherine Plantagenet |
Plant | Elizabeth Somerset |
- Am eraill o'r un enw, gweler William Herbert (gwahaniaethu)
Etifeddodd Iarllaeth Penfro ar ôl ei dad yn 1469. Yn 1479 cafodd ei orfodi gan Richard II, brenin Lloegr i ildio'r iarllaeth honno a'i diroedd yng Nghymru, gan dderbyn yn ei lle iarllaeth Huntingdon a thiroedd yn ne-orllewin Lloegr. Roedd hyn yn benderfyniad gwleidyddol gan Richard, sef ymgais i leihau dylanwad y teulu Herbert yng Nghymru.[1] Fel gweddill ei deulu, Iorcydd rhonc oedd William a bu'n driw iawn i'w frenin. Priododd Mary Woodville, chwaer y brenin, Elizabeth Woodville,[2] a chawsant un ferch, Elizabeth Herbert, 3ydd barwnes Herbert.
Wedi methiant Henry Stafford, ail ddug Buckingham i gipio'r goron yn 1483 derbyniodd swydd fel Prif Ustus De Cymru, a ddaliwyd cyn hynny gan Buckingham.[3]
Priododd am yr eildro, i Katherine, merch anghyfreithlon Richard III, yn 1484, a derbyniodd dâl blynyddol o £1,000 gan ddyblu ei incwm.[3][4] Bu Katherine farw cyn diwedd 1487.
Pan laniodd Harri Tudur ym Mhenfro yn 1485 un o weision William a aeth a'r neges i'r brenin.[5] Nid ymladdodd ym Mrwydr Maes Bosworth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Michael Hicks, The Wars of the Roses, (Yale University Press, 2012), 212.
- ↑ Charles Ross, Edward IV, (University of California Press, 1974), 93.
- ↑ 3.0 3.1 Charles Ross, Richard III (University of California Press, 1981), 158.
- ↑ Chris Skidmore, Bosworth: The Birth of the Tudors (Phoenix Press, 2013), t. 204
- ↑ Charles Ross, Richard III, 211.