William Herbert, Iarll 1af Penfro (1423–1469)

milwr a gwladweinydd
Am eraill o'r un enw, gweler William Herbert (gwahaniaethu)

Iarll Penfro a ffigwr allweddol ar ochr plaid yr Iorciaid yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau yng Nghymru oedd William Herbert, Iarll 1af Penfro (tua 142327 Gorffennaf 1469). Roedd yn fab i William ap Thomas ac yn ŵyr i Dafydd Gam.

William Herbert, Iarll 1af Penfro
Ganwydc. 1423 Edit this on Wikidata
Bu farw27 Gorffennaf 1469 Edit this on Wikidata
Banbury Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru, Teyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethpendefig Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
TadWilliam ap Thomas Edit this on Wikidata
MamGwladys ferch Dafydd Gam Edit this on Wikidata
PriodAnne Devereux Edit this on Wikidata
PlantMaud Herbert, Richard Herbert, William Herbert, Walter Herbert, Mary Herbert, Catherine Herbert, merch anhysbys Herbert, Margaret Herbert, merch anhysbys Herbert, merch anhysbys Herbert, merch anhysbys Herbert, merch anhysbys Herbert, George Herbert, William Herbert, Philip Herbert, William Herbert, John Herbert Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Gardas Edit this on Wikidata
Arfau William Herbert, Iarll 1af Penfro

Bu'n ymladd ym myddin Lloegr yn Normandi gyda Mathau Goch, a chafodd ei gymeryd yn garcharor ym Mrwydr Formigny yn 1450. Gwnaed ef yn farchog Nadolig yr un flwyddyn. Fel cefnogwr selog plaid yr Iorciaid, gwobrwywyd Herbert a'r teitl Arglwydd Herbert o Raglan gan y brenin Edward IV. Ymladdodd dros yr Iorciaid ym Mrwydr Mortimer's Cross yn 1461, pan gymerwyd Owain Tudur yn garcharor a'i ddienyddio. Yn 1468, wedi iddo gipio Castell Harlech, fe'i gwnaed yn Iarll Penfro, a rhoddwyd Harri Tudur ieuanc dan ei ofal. Bwriad Herbert oedd i Harri briodi ei ferch ef.

Fodd bynnag, cwerylodd Herbert a Richard Neville, Iarll Warwick, oedd wedi troi yn erbyn y brenin ac at achos y Lancastriaid. Cymerwyd Herbert a'i frawd Richard Herbert yn garcharor ym Mrwydr Edgecote, ger Banbury, a'i ddienyddio gan Warwick. Dilynwyd ef fel Iarll Penfro gan ei fab, William. Roedd yn briod ag Anne Devereux, a chawsant o leiaf ddeg plentyn, gan gynnwys:

  • William Herbert, 2il Iarll Penfro (1451–1491).
  • Syr Walter Herbert. (c. 1452 - m. 16 Medi 1507). Priododd Anne Hastings, iarlles Huntingdon, chwaer Edward Stafford, 3ydd dug Buckingham.
  • Syr George Herbert o Sant Julians.
  • Philip Herbert o Lanfihangel.
  • Cecilie Herbert.
  • Maud Herbert, iarlles Northumberland. Priododd Henry Percy, 4ydd iarll Northumberland.
  • Katherine Herbert. Priododd George Grey, ail iarll Kent.
  • Anne Herbert. Priododd John Grey, barwn Grey of Powis cyntaf, 9fed arglwydd Powys (m. 1497).
  • Isabel Herbert. Priododd Sir Thomas Cokesey.
  • Margaret Herbert. Priododd yn gyntaf Thomas Talbot, 2nd isiarll Lisle ac yna Syr Henry Bodringham.

Roedd William Herbert yn noddwr beirdd, a chanwyd nifer o gywyddau iddo gan Feirdd yr Uchelwyr, yn enwedig Guto'r Glyn, oedd ei hun yn bleidydd Iorc. Yn un o gywyddau enwocaf Guto, mae'n galw ar William Herbert i yrru'r swyddogion Seisnig o'r wlad ac uno Cymru, ac yn addo:

O digia Lloegr a'i dugaid
Cymru a dry yn dy raid

Cyfeiriadau golygu