William Hughes (clociwr)

gwneuthurwr clociau

Clociwr o Gymro oedd William Hughes (bu farw tua 1794). Aeth i Lundain cyn 1755 a sefydlodd ei fusnes yn 119 High Holborn[1] gan wneud clociau cerddorol a chlociau o fecanwaith rhyfedd.[2] Cafodd ryddfreiniad The Worshipful Company of Clockmakers ym 1781. Gwnaethai Hughes oriawr gerddorol i ymerawdwr Tsieina[1] a chloc a werthodd i'r Capten James Cook.[3] Hyd 1794 roedd William Hughes mewn busnes yn y Dial, King Street, High Holborn, ac yn Lower Grosvenor Street.[1]

William Hughes
GanwydCymru Edit this on Wikidata
Bu farw1794 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
GalwedigaethClociwr Edit this on Wikidata

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Hughes, William (bu f. 1794?). Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 23 Medi 2013.
  2. (Saesneg) Clock and watch-making. A History of the County of Middlesex: Volume 2. Adalwyd ar 23 Medi 2013.
  3. (Saesneg) Tale of Two Clocks. Adalwyd ar 23 Medi 2013.