James Cook

mapiwr, botanegydd, swyddog yn y llynges, fforiwr, morwr (1728-1779)

Fforiwr Seisnig oedd Capten James Cook (27 Hydref 172814 Chwefror 1779). Ganwyd ym Marton, Cleveland, Lloegr. Teithiodd o gwmpas y byd dair gwaith, er mwyn darganfod tiroedd newydd. Fe luniodd fapiau manwl, er enghraifft o arfordiroedd ynysoedd y Môr Tawel, Awstralia, Seland Newydd a Gogledd America.

James Cook
Ganwyd27 Hydref 1728 Edit this on Wikidata
Marton Edit this on Wikidata
Bu farw14 Chwefror 1779 Edit this on Wikidata
o clwyf drwy stabio Edit this on Wikidata
Kealakekua Bay Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, mapiwr, swyddog yn y llynges, morwr, botanegydd Edit this on Wikidata
MamGrace Pace Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Cook Edit this on Wikidata
PlantJames Cook, Nathaniel Cook, Elizabeth Cook, Joseph Cook, George Cook, Hugh Cook Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Copley Edit this on Wikidata
llofnod

Mordeithiau Cook golygu

Roedd y fordaith gyntaf (1768-1771) yn yr HM Bark Endeavour i Dahiti er mwyn gwylio'r blaned Gwener yn symud o flaen yr haul. Ond doedd hi ddim yn bosibl cael canlyniadau cywir gyda'r offer seryddol ar y pryd. Ar ôl gwylio Gwener, aeth Cook i chwilio am Terra Australis, arfordir cyfiniol y Môr Tawel, ac i fapio arfordiroedd Seland Newydd ac Awstralia.

Roedd yr ail fordaith (1772-1775) ar HMS Resolution ac HMS Adventure; roedd yn daith arall i ddod o hyd i Terra Australis a'r cynnig cyntaf i long o Ewrop hwylio i Fôr Antarctica. Ar y daith hon profodd Cook nad oedd Terra Australis yn bodoli, ond darganfu lawer o ynysoedd.

Roedd y drydedd fordaith (1776-1779) ar y llongau HMS Resolution ac HMS Endeavour, i chwilio am lwybr môr o'r Môr Iwerydd i'r Môr Tawel o gwmpas gogledd Canada, sef y 'Tramwyfa gogledd-orllewin'. Ar ôl gwneud mapiau o arfordir gorllewin America, bu'n rhaid iddo droi yn ôl i Hawaii, lle cafodd ei ladd gan brodorion yr ynys ar ôl brwydro i gael yn ôl cwch a oedd wedi'i ddwyn. Roedd y Cymro David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar drydedd fordaith y Capten Cook. Roedd yn fab i'r llenor Edward Samuel, gŵr o Benmorfa yn Edeirnion, a fu'n berson Llangar o 1721 tan 1748. Cadwodd ddyddiadur am y fordaith a chyhoeddodd y llyfr A Narrative of the Death of Captain James Cook yn 1786.

Gorchestion golygu

Mae Cook yn adnabyddus am ei sgiliau gwneud mapiau, am fod yn lwyddiannus wrth atal afiechydion morwyr, ac wrth ddatblygu dulliau mordwyo newydd.

Llyfryddiaeth golygu

  • David Samwell, A Narrative of the Death of Captain James Cook (1786)

Cyfeiriadau golygu