William John Davies (Gwilym Peris)

Nofelydd a dramodydd o Gymro oedd William John Davies (1888 - 1957), a gyhoeddai gan amlaf wrth yr enw Gwilym Peris (ac weithiau fel W. J. Davies yn achos ei ddramâu).

William John Davies
FfugenwGwilym Peris Edit this on Wikidata
Ganwyd1888 Edit this on Wikidata
Nantperis Edit this on Wikidata
Bu farw1957 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnofelydd, dramodydd Edit this on Wikidata

Ei fywyd a'i waithGolygu

Roedd yn frodor o Nantperis yn Arfon ond treuliodd ran helaeth ei oes yn byw yn nhref Caernarfon lle gweithiodd fel gard ar y rheilffordd. Roedd yn sosialydd brwd. Gwasanaethodd am gyfnod ar Gyngor Tref Caernarfon.

Fel llenor, roedd yn adnabyddus iawn yn lleol. Un o'r dylanwadau mawr arno oedd Anthropos (R. D. Rowlands), llenor poblogaidd a wasanaethai fel gweinidog Capel Hen Waliau, Caernarfon, lle bu Gwilym Peris yn aelod. Cyhoeddodd sawl nofel ar ei draul ei hun, i gyd wedi'u lleoli yn ardal Eryri. Nofelau byr rhamantaidd ydyn nhw, yn ôl chwaeth y cyfnod, ond maent yn cynnwys disgrifiadau cofiadwy o ardal Llanberis a bywyd y werin bobl gynt. Ysgrifennodd nifer o ddramâu hefyd a bu'n weithgar iawn ym myd y ddrama yn ardal Arfon, gan gynnal dosbarthiadau a darlithio. Cyfrannai erthyglau yn rheolaidd i'r papur sosialaidd Y Dinesydd Cymreig hefyd.

LlyfryddiaethGolygu

Dramâu (detholiad)Golygu

  • Bwlch-y-groes
  • Y Llestr Gwannaf
  • Y Merthyr
  • Tewach Gwaed na Dŵr
  • Y Tramp

NofelauGolygu

  • Rhamant Eryri (Hughes a'i Fab, 1923)
  • Tonnau'r Nos (Caernarfon, d.d.)
  • Tros Arw Bant a Bryn (Caernarfon, d.d.)
  • Y Llwybr Unig (Caernarfon, d.d.)

FfynhonnellGolygu

Dafydd Glyn Jones, 'Pwy oedd yr 'Hen Dramodwyr'?', Y Casglwr (Rhifyn 94, Gaeaf 2008).