Robert David Rowland (Anthropos)
Gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd a llenor oedd Robert David Rowland (Anthropos) (1853? – 21 Tachwedd 1944).[1]
Robert David Rowland | |
---|---|
Ffugenw | Anthropos |
Bu farw | 21 Tachwedd 1944 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, gweinidog yr Efengyl, llenor |
Fe'i ganwyd tua 1853; nid oes sicrwydd yngylch y dyddiad na'r lle. Fe'i mabwysiadwyd gan Robert a Beti Rowland, a oedd yn byw ym mhentref Tyn-y-cefn, yn agos i Gorwen. Fe'i prentisiwyd yn deiliwr. Dechreuodd bregethu yn 1873 ac yn 1874 aeth i goleg y Bala. Bu'n athro ysgol yno am gyfnod, a chyhoeddodd ei lyfr cyntaf, Y Blodeuglwm, yn 1877. O'r Bala aeth i Gaernarfon, gan ymuno â staff Yr Herald Cymraeg ac wedyn Y Genedl Gymreig; daeth yn olygydd yr olaf o 1881 hyd 1884. Bu hefyd yn cynorthwyo Evan Jones gyda'r Amseroedd. Wedi ei ordeinio yn 1887 daeth yn weinidog yng Nghaernarfon, lle y bu hyd 1933. Yn 1912 dilynodd Thomas Levi fel golygydd Trysorfa'r Plant.
Roedd yn adnabyddus ledled Cymru fel llenor a bardd. Cyhoeddodd dros 20 o lyfrau. Ysgrifennodd lawer iawn i'r wasg, gan gynnwys Y Herald Cymraeg, Y Genedl Gymreig, Y Faner, Y Goleuad, Y Traethodydd, Y Geninen, a'r Dinesydd Cymreig.
Gweithiau
golygu- Y Blodeuglwm (Y Bala, 1878)
- Gwroniaid y Ffydd a Brwydrau Rhyddid (Caernarfon, 1897)
- Oriau yn y Wlad: neu, Gydymaith Gwyliau Haf (Caernarfon, 1898)
- Y Frenhines Victoria : Ei Hanes, ei Nodweddion, ei Dylanwad (Caernarfon, 1901)
- Awel a Heulwen (Caernarfon, 1901)
- Gwlad yr Iesu (Caernarfon, 1903)
- Oriau gygag Enwogion (Wrecsam, 1903)
- Y Faner Wen: Ystori Arbenig i Blant y 'Band of Hope'” (Caernarfon, 1903)
- Y Porth Prydferth (Wrecsam, 1904)
- Telyn Bywyd (Caernarfon, 1904)
- Tŷ Capel y Cwm (Wrecsam, 1905)
- Perlau'r Diwygiad (Caernarfon, 1906)
- Oriau Hamdden: Yng Nghwmni Awduron a Llyfrau (Wrecsam, 1907)
- Y Ffenestri Aur: Oriau yn Nghwmni Natur, Awduron, a Llyfrau (Dinbych, 1907)
- Cadeiriau Enwog (Caernarfon, 1908)
- Camrau Llwyddiant: Trem ar Fywyd Dewi Arfon (Wrecsam, 1909)
- Jim: Yr Arlunydd Bach (Caernarfon, 1909)
- Y Golud Gwell: Adlais o'r Dyddiau Gynt (Wrecsam, 1910)
- Merch y Telynor: Rhamant Gymreig (Wrecsam, 1911)
- Bugail y Cwm (Wrecsam, 1913)
- Y Pentre Gwyn: Ystori Bore Bywyd (Wrecsam, 1915)
- Stryd Ni: Stori Newydd i'r Plant (Caernarfon, 1920)
- Un o Blant y Wlad: Stori i'r Plant (Caernarfon, 1921)