William Jones (Bleddyn)
Hanesydd o Beddgelert, Gwynedd, oedd William Jones (1829 – 30 Ionawr 1903). Ei rhieni oedd Catrin Jones a John Jones.
William Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1829 Beddgelert |
Bu farw | 30 Ionawr 1903 Llangollen |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | hynafiaethydd, hanesydd, darlithydd |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Jones.
Cefndir
golyguPrentisiwyd ef i deilwra yng Nghaernarfon ym 1841, ond ar wahan i gyfnod byr ym Mhorthmadog treuliodd ei fywyd mewn busnes yn Llangollen, a bu farw yna ar 30 Ionawr 1903. Rhannodd y wobr gydag Owen Wynne Jones (Glasynys) am draethawd ar hynafiaethau plwyf Beddgelert mewn eisteddfod yno ym 1860, a dyma'r traethawd hwn a deunyddiau eraill a gasglwyd ganddo a oedd yn sail i Bedd Gelert, 1899, gan DE Jenkins. Cyhoeddwyd ei draethawd ar ddaeareg Sir Gaernarfon, yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1862, a enillodd lawer o ganmoliaeth, yn Y Brython, 1862, 75-93, ac ailargraffwyd dan deitl Llawlyfr ar Ddaeareg Sir Gaernarfon, 1863.[1]
Ffynonellau
golygu- Y Geninen, 1910
- Y Cymmrodor, v et seq.
- D. E. Jenkins, Bedd Gelert, its facts, fairies, and folk-lore (Porthmadog 1899) (preface);
- The Llangollen Advertiser, 6 Chwefror 1903
- Cofrestr plwyf Llangollen
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "JONES, WILLIAM ('Bleddyn'; 1829? - 1903), hynafiaethwr, hanesydd lleol, daearegwr, a chasglwr llên gwerin | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-03-13.