William Jones (dilladwr)
(Ailgyfeiriad o William Jones (Chartist))
Roedd William Jones (c.1545/1550 – Ionawr 1615) yn ddilladwr[1] a anwyd ger Newland, Swydd Gaerloyw. Sefydlodd Ysgol Trefynwy yn Sir Fynwy a'r "Darlithoedd Aur" yn Llundain, sy'n parhau'n ddi-dor hyd heddiw.
William Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1545 Newland |
Bu farw | Ionawr 1615 Hamburg |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | masnachwr |
- Am bobl eraill o'r un enw, gweler William Jones.
Bu'n brentis yn Nhrefynwy cyn symud i Lundain yn 20 oed. Gwnaeth ei arian yn Hamburg yn marchnata brethyn: gwlân a cotwm ayb. Yn ôl yr awdur Charles Heath, a oedd yn sgwennu yn 1804, pan ddychwelodd Joes i Lundain, gwisgodd ddillad tlotyn, yn hytrach na gŵr cyfoethog. Gadawodd yn ei ewyllus (dyddiedig 26 Rhagfyr 1614) arian mawr i nifer o achosion da gan gynnwys cyflogi gweinidog i'w gyfeillion yr Haberdashers, elusendai i 20 o bobl tlawd ac ysgol yn Nhrefynwy.
Roedd yn aelod o'r "Worshipful Company of Haberdashers", yn Llundain.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ William Meyler Warlow (1899). A History of the Charities of William Jones (founder of the "Golden Lectureship" in London), at Monmouth & Newland (yn Saesneg). W. Bennett. t. 26.