Charles Heath (argraffydd)

argraffydd

Awdur, cyhoeddwr, argraffydd a llyfrwerthwr o Gymro oedd Charles Heath (Ebrill 17617 Ionawr 1831).[1]

Charles Heath
Ganwyd1761 Edit this on Wikidata
Swydd Gaerwrangon, Kidderminster Edit this on Wikidata
Bu farw1 Ionawr 1831 Edit this on Wikidata
Trefynwy Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethhynafiaethydd, argraffydd Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Heath Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Heath yn Hurcott ger Kidderminster, Swydd Gaerwrangon. Dydy union ddyddiad ei eni ddim yn hysbys ond cafodd ei fedyddio ar 16 Ebrill 1761 yn Kidderminster.[2] Roedd yn blentyn i Charles Heath perchennog melin bapur a Margaret Mountford ei wraig. Cafodd ei addysgu mewn ysgol yn Hartelbury, Swydd Gaerwrangon cyn mynd yn brentis i argraffydd yn Nottingham.[3]

Ym 1791 symudodd i Drefynwy lle sefydlodd ei wasg ei hun ar Sgwâr Agincourt, roedd yn gwneud gwaith argraffu cyffredinol a hefyd yn ysgrifennu, argraffu, cyhoeddi a gwerthu llyfrau topograffig am Sir Fynwy.

Ymysg y gweithiau cynnar iddo argraffu oedd ail gyhoeddiad o'r llyfr Lamentable News out of Monmouthshire in Wales: containing the most wonderful and most fearful accidents of the great overflowing of waters in the saide Countye, drowning infinite numbers of Cattell of all kinds as sheepe, oxen, kine, and horses, with others, together with the losse of many men, women, and children, and the submersion of XXVI. Parishes in January, 1607 gwaith prin a oedd yn rhoi disgrifiad gweddol gyfoes am lifogydd Môr Hafren, 1607.

Roedd ei gyhoeddiadau o dan ei awduraeth ei hun yn cynnwys:[4]

  • An Account of the Presentation of Colors to the Monmouth Volunteers by Her Grace the Duchess of Beaufort, in the year 1799
  • An Account of Tintern Abbey
  • The Excursion down the Wye from Ross to Monmouth
  • Wilton and Goodrich Castles, Courtfield, New Weir, the Swift family, with Memoirs of The Man of Ross
  • Historical and Descriptive Accounts of the Town and Castle of Chepstow
  • A Discriptive Account of Ragland Castle
  • The Kymin Pavilion, Beauleau Grove The Naval Temple and Buckstone, with an account of Lord Nelson's visit to Monmouth
  • A History of the Town of Monmouth

Nid oes lawer o werth llenyddol i lyfrau Heath, ond yn eu dydd buont yn foddion i ddatblygu busnes ymwelwyr Sir Fynwy a dyffryn Gwy.[4] Bellach maent yn cael eu cyfrif yn gofnodion o wybodaeth hanesyddol byddai wedi mynd ar ddifancoll pe na bai wedi eu cyhoeddi a, gan hynny, o werth hanesyddol amhrisiadwy.[3]

Gwasanaethodd Heath fel maer cyngor tref Trefynwy am y ddwy flynedd 1819 a 1820.

Priododd gwraig o'r enw Elizabeth, bu hi farw ym 1848 [5] cawsant fab a dwy ferch. Boddodd y mab wrth nofio yn afon Gwy ym 1808.[6]

Marwolaeth

golygu

Bu farw yn Nhrefynwy yn 69 mlwydd oed [7] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Eglwys Prior y Santes Fair.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "HEATH, CHARLES (1761 - 1830), argraffydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-09-18.
  2. Familysearch Bedydd Charles Heath 1761 adalwyd 18 Medi 2019
  3. 3.0 3.1 "Heath, Charles (1761–1830), topographical printer | Oxford Dictionary of National Biography". www.oxforddnb.com. doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-12830. Cyrchwyd 2019-09-18.
  4. 4.0 4.1 Journal of the Welsh Bibliographical Society; Cyfrol 1, Rhif. 5, Mehefin 1913; ' Notes on Charles Heath, of Monmouth: Author, Printer, and Publisher, circa. 1788-1831 adalwyd 18 Medi 2019
  5. "FamilyNotices - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1848-01-08. Cyrchwyd 2019-09-18.
  6. "The Cambrian". T. Jenkins. 1808-07-16. Cyrchwyd 2019-09-18.
  7. "FamilyNotices - Monmouthshire Merlin". Charles Hough. 1831-01-01. Cyrchwyd 2019-09-17.