William Theophilus Thomas (Gwilym Gwenffrwd)

gweinidog gyda'r Annibynwyr, a bardd

Gweinidog Ymneilltuol a bardd Cymraeg oedd William Theophilus Thomas (182411 Mai 1899), a adnabyddid gan amlaf wrth ei enw barddol Gwilym Gwenffrwd.[1]

William Theophilus Thomas
Ganwyd1824 Edit this on Wikidata
Treffynnon Edit this on Wikidata
Bu farw11 Mai 1899 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, bardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed Gwilym yn Nhreffynnon, Sir y Fflint, rywbryd yn 1824. Aeth i fyw ym Manceinion yn ddyn ifanc. Yno ymunodd â'r eglwys Annibynnol Gymraeg yn Gartside. Dechreuodd bregethu fel pregethwr cynorthwyol ac yn 1851 fe'i ordeiniwyd yn weinidog yng nghapel Cana yn Llanddaniel Fab, Sir Fôn.[1]

Ar ôl ymddeol am dymor byr oherwydd cyflwr bregus ei iechyd, symudodd i'r Wyddgrug lle treuliodd gyfnod yn weinidog eglwysi Annibynnol Soar a Jerusalem. Bu farw ar yr 11eg o Fai 1899 yn yr Wyddgrug.[1]

Llenydda golygu

Yn ei gyfnod ym Manceinion daeth i adnabod beirdd a llenorion Cymraeg y ddinas honno a dechrau llenydda a barddoni. Cyfrannodd nifer o erthyglau a cherddi i'r newyddiaduron a'r cylchgronau Cymraeg a daeth yn bur adnabyddus felly. Cyhoeddodd gyfrol o ddiwinyddiaeth, Sylwadau ar Fodolaeth Enaid, yn 1883.[1]

Llyfryddiaeth golygu

  • Y Trefniedydd Cyfreithiol (1863)
  • Sylwadau ar Fodolaeth Enaid (1883)

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia