Llanddaniel Fab

cymuned ar Ynys Môn

Pentref bychan, cymuned a phlwyf eglwsyig yw Llanddaniel Fab (gynt Llanddeiniol Fab). Mae'n gorwedd yn ne-orllewin Ynys Môn, ar ffordd gefn rhwng Y Gaerwen ar ffordd yr A5 a Llanedwen ar yr A4080. Mae'n rhan o ward Llanidan.

Llanddaniel Fab
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth840 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.21°N 4.253°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000012 Edit this on Wikidata
Cod OSSH4970, SH5040569796 Edit this on Wikidata
Cod postLL60 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Yn yr Oesoedd Canol bu'n rhan o gwmwd Menai, cantref Aberffraw. Mae'r eglwys wedi ei chysegru i Ddaniel Fab (Deiniol Fab; hefyd Deiniolen).

Mae claddfa gynhanesyddol enwog Bryn Celli Ddu ychydig i'r de o'r pentref. Yma hefyd y saif Plas Llwyn-onn.

Un o arwyddion Llanddaniel.
Eglwys Sant Deiniol Fab, Llanddaniel Fab.

Mae'n debyg mai mab enwocaf y pentref yw Tecwyn Roberts (1925-1988), a ddaeth yn swyddog Flight Dynamics cyntaf NASA gyda phrosiect Mercury a roddodd yr Americanwr cyntaf i'r gofod. Ganed Roberts ym Mwthyn Trefnant bach yn Llanddaniel Fab ac roedd yn gyn-ddisgybl Ysgol Parc y Bont. Ar ôl gwasanaethu fel aelod o dîm prosiect Avro Arrow a'r grŵp gorchwyl gofod, trosglwyddodd Roberts i NASA lle daeth yn bennaeth yr is-adran cymorth hedfan â chriw yn y pen draw, yn bennaeth ar yr is-adran peirianneg rhwydwaith yn ystod rhaglen Apollo ac yn ddiweddarach Cyfarwyddwr y rhwydweithiau yng Nghanolfan hedfan y gofod yn Goddard.[1]

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanddaniel Fab (pob oed) (776)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanddaniel Fab) (470)
  
62.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanddaniel Fab) (524)
  
67.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanddaniel Fab) (97)
  
29.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Tecwyn Roberts". www.llanddaniel.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-07-28.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolen allanol

golygu