Mae'r erthygl yma am y gwasanaeth lletya blogiau. Ar gyfer y meddalwedd blogio, gweler WordPress

Gwasanaeth lletya blogiau ydy WordPress.com gan gwmni Automatic ac sy'n cael ei yrru gan feddalwedd WordPress.[1][2] Mae'n darparu lletya am ddim ar gyfer defnyddwyr cofrestredig ac mae'n cael ei gynnal yn ariannol gan uwrchraddio, gwasanaethau "VIP" a hysbysebion.

Agorodd y wefan i brofwyr beta ar 8 Awst 2005 ac fe agorwyd i'r cyhoedd ar 21 Tachwedd 2005. Fe'i lansiwyd yn wreiddiol fel gwasanaeth gwahoddiad-yn-unig, er ar un adeg, roedd cyfrifon ar gael i ddefnyddwyr y porwr gwe Flock.[3][4] Roedd dros 56 miliwn blog unigol gyda'r gwasanaeth ar 13 Hydref 2012.[5]

Nid yw'n orfodol i fod wedi cofrestru cyn gallu darllen neu adael sylw ar flogiau sy wedi eu lletya ar y system, oni bai bod perchennog y blog yn dewis hynny. Rhaid cofrestru i fod yn berchen ar flog, neu i bostio cofnod ar flog. Mae holl nodweddion sylfaenol a gwreiddiol y wefan am ddim. Mae modd talu am y gallu i olygu CSS, mapio enw parth, cofrestru enw parth, tynnu hysbysebion, ailgyfeirio gwefan, uwchlwytho fideo ac uwchraddio cyfyngder storio.[6]

Rhyngwyneb Cymraeg golygu

Mae modd dewis cael rhywngwyneb Cymraeg.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. "WordPress.com Open". Matt Mullenweg. 2005-11-21. Cyrchwyd 2011-07-01.
  2. WordPress.com vs. WordPress.org o wefan y cwmni
  3. WordPress.com partners with Flock Archifwyd 2017-06-29 yn y Peiriant Wayback. o BloggingPro.com (retrieved Monday May 29, 2006)
  4. Down Memory Lane With WordPress.com o wptavern.com. Gan Jeffro. 31 Mehefin, 2009. Llinell amser hanesyddol yn defnyddio archif rhyngrwydd Wayback Machine.
  5. "Stats". WordPress.com. Cyrchwyd 2012-10-13.
  6. Available Upgrades o wefan cefnogaeth y cwmni
  7. Sut i newid iaith dy flog i Gymraeg Canllawiau ar hedyn.net ar sut i newid iaith rhyngwyneb blog WordPress.com i'r Gymraeg

Dolenni allanol golygu