Wrth Fynd Efo Deio i Dywyn

Cân werin Gymraeg am daith rhiwyn ai darw Deio i dref Tywyn, Meirionnydd, Gwynedd, yw Wrth Fynd Efo Deio i Dywyn. Fe'i canwyd gan Ar Lôg a hefyd gan Cerys Matthews a'i disgrifiodd fel "Pub-crawl o gwmpas Cymru".

Perfformiad gan Margaret Price (dyfyniad)

Geiriau

golygu

1. Mi dderbyniais bwt o lythyr,
Tra la la la la la la la, tra la la
Oddi wrth Mistar Jones o'r Brithdir,
Tra la la la la la la la, tra la la la
Ac yn hwnnw 'r oedd o'n gofyn.
Tra la la la la, tra la la la
Awn i hefo Deio i Dywyn.
Tra la la la la la, tra la la la la
Tra la la la la la la la, tra la la

2. Bûm yr hir yn sad gysidro
Prun oedd orau mynd ai peidio,
Ond wedi'r oll bu i mi gychwyn
Hefo Deio i ffwrdd i Dywyn.

3. Fe gychwynnwyd ar nos Wener
Dod i Fawddwy erbyn swper;
Fe gaed yno uwd a menyn
Wrth fynd hefo Deio i Dywyn.

4. Dod ymlaen ac heibio i'r Dinas
Bara a chaws a gaed yng Ngwanas,
Trwy Dalyllyn yr aem yn llinyn
Wrth fynd hefo Deio i Dywyn.

5. Dod drwy Abergynolwyn
Wedyn heibio Craig y Deryn:
Pan gyrhaedd'som Ynys Maengwyn.
Gwaeddai Deio, "Dacw Dywyn!"

6. Os bydda'i byw un flwyddyn eto
Mynna'n helaeth iawn gynilo;
Mi gaf bleser anghyffredin
Wrth fynd hefo Deio i Dywyn.