Margaret Price

cantores opera o Gymru

Cantores soprano Cymreig oedd Y Fonesig Margaret Berenice Price DBE (13 Ebrill 1941 - 28 Ionawr 2011).

Margaret Price
Margaret Price fel Elisabetta yn Don Carlo gan Verdi yn yr Opera Metropolitan, Dinas Efrog Newydd ym 1989
Ganwyd13 Ebrill 1941 Edit this on Wikidata
Coed-duon Edit this on Wikidata
Bu farw28 Ionawr 2011 Edit this on Wikidata
Aberteifi Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth glasurol, opera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
Gwobr/auBonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, CBE Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Price yn ysbyty mamolaeth Tredegar yn ferch i Thomas Glyn Price, athro peirianneg, a phrifathro diweddarach Coleg Addysg Bellach Pont-y-pŵl, a'i wraig, Lilian Myfanwy, (née. Richards) a chafodd ei magu yn y Coed-Duon ym mwrdeistref sirol Caerffili. Cafodd ei addysgu yn ysgol ramadeg Pontllanfraith, lle nododd ei hathro cerddoriaeth ei thalent leisiol.[1]

Trefnodd ei athro cerddoriaeth iddi gael clyweliad gyda Charles Kennedy Scott yng Ngholeg Gerdd y Drindod, Llundain. Enillodd ysgoloriaeth i'r coleg lle'i hyfforddwyd fel mezzo-soprano. Enillodd wobr Kathleen Ferrier yn y coleg.[2]

Gyrfa golygu

Ymunodd gyda Chantorion Ambrosia, côr enwog o Lundain, ar ôl gadael y coleg. Gwnaeth berfformio gyda nhw ar drac sain ffilm Charlton Heston ym 1961, El Cid. Byr bu ei hamser gyda'r côr gan ei bod yn cael trafferth i ganu trwy olwg.

Canodd yn ei hopera gyntaf ym 1962, fel aelod o Gwmni Opera Cymru yn chware rhan Cherubino yn Le nozze di Figaro gan Mozart. Bu hefyd yn chware rhannau Nannetta (Ffalstaff gan Verdi), Amelia (Simon Boccanerga gan Verdi) a Mimì (La bohème gan Puccini) i Gwmni Opera Cymru.[3] Yn yr un flwyddyn cafodd clyweliad gan Georg Solti yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden. Gwrthododd Solti rhoi rhan iddi gan nad oedd yn credu bod ei llais yn ddigon swynol. Fodd bynnag, fe’i derbyniwyd fel dirprwy, diolch i’r cyfarwyddwr castio Joan Ingpen, a ffurfiodd berthynas bersonol a phroffesiynol agos gyda’r pianydd a’r arweinydd James Lockhart. Ychwanegodd Solti cymal yn ei chontract, a oedd yn nodi na ddylai fyth ddisgwyl cael canu rhan flaenllaw yn y prif dŷ, felly canodd fân rolau yn unig. Daeth ei llwyddiant ym 1963 pan ganslodd Teresa Berganza berfformiad a chafodd Price gyfle i gymryd yr awenau fel ei dirprwy enwebedig, eto yn rôl Cherubino, perfformiad a'i gwnaeth yn enwog dros nos.[4] Ar ôl hynny, argyhoeddodd Lockhart ar Price i gymryd gwersi canu pellach i wella ei thechneg a datblygu'r ystod uchel oleuol a'i gwnaeth yn un o sopranos telynegol mwyaf poblogaidd y 1970au a'r 1980au.[5]

Ym 1967, perfformiodd gyda Grŵp Opera Saesneg Benjamin Britten yn Der Schauspieldirektor gan Mozart, ac fel Titania yn A Midsummer Night's Dream gan Britten. Ym 1968, dwedodd y beirniad Desmond Shawe-Taylor iddi ganu'n "wych, hyblyg ac ar raddfa fawr" fel Constanze yn Die Entführung aus dem Serail gan Mozart yn Glyndebourne.[6]

Gan nad oedd Price yn mwynhau teithio, roedd hi bob amser yn cadw llwyfan "cartref", lle'r oedd hi'n aros ac yn perfformio am y mwyafrif o bob blwyddyn. Covent Garden oedd ei chartref i ddechrau. O 1971 gwnaeth yr Almaen yn ganolfan iddi, yn Cologne Opera i ddechrau lle gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn Don Giovanni, ac wedyn yn Opera Gwladol Bafaria ym München, lle bu’n byw hyd ymddeol ym 1999.[4] Felly ffurfiodd Price berthynas broffesiynol ag Otto Klemperer, a arweiniodd at ei recordiad cyntaf o rôl fawr mewn opera gyflawn - Fiordiligi yn Così fan tutte Mozart. Sefydlodd recordiad 1972 Price fel arbenigwr recordio gweithiau Mozart.[5]

Yn y blynyddoedd a ddilynodd, ymddangosodd Price fel gwestai mewn tai opera pwysig. Daeth ei début Opera Metropolitan, Dinas Efrog Newydd ym 1985 fel Desdemona yn Otello gan Verdi. Ym 1989 ymddangosodd yng nghynhyrchiad Cwmni Opera Cymru o Salome yn Academi Gerdd Brooklyn yn Efrog Newydd, mewn perfformiad a fynychwyd gan Dywysog a Thywysoges Cymru.[7]

Repertoire golygu

Roedd Price yn fwyaf enwog am ei phortreadau yng ngweithiau Mozart, yn enwedig Fiordiligi a Donna Anna yn Don Giovanni, y Contessa yn Le nozze di Figaro (ar ôl canu Cherubino a Barbarina ar ddechrau ei gyrfa), a Pamina yn Y Ffliwt Hud. Yn ogystal, canodd rolau Verdi, fel Amelia (Un ballo in maschera, rôl a recordiodd hefyd gyda Luciano Pavarotti), Elisabetta (Don Carlos) a Desdemona (Otello), ei rôl gyntaf yn y Met, yn ogystal â'r rôl deitl yn Aida (hefyd gyda Pavarotti yn San Francisco, a gadwyd ar fideo), Ariadne Richard Strauss (Ariadne auf Naxos) ac Adriana Lecouvreur gan Cilea. Roedd Price hefyd yn weithgar iawn fel canwr Lieder, yr un mor gartrefol yn idiomau rhamantus Franz Schubert, Robert Schumann neu Richard Strauss.

Yn ystod ei gyrfa, gwnaeth Price lawer o recordiadau o operâu ac o Lieder. Un o'i recordiadau enwocaf yw'r Isolde yn recordiad cyflawn Carlos Kleiber o Tristan und Isolde gan Richard Wagner, rôl na chanodd hi erioed ar lwyfan. Roedd hi'n Kammersängerin (cantores fawr) Opera Wladol Bafaria.

Marwolaeth golygu

Bu farw o fethiant y galon yn ei chartref yn Nhrewyddel yn 69 mlwydd oed ac amlosgwyd ei gweddillion yn Amlosgfa Parcgwyn yn Arberth.[8] Cafwyd rhaglen teyrnged iddi gan Beti George ar Radio Cymru [9] a rhaglen goffa Margaret Price Brenhines y Gân ar S4C.[10]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Price, Dame Margaret Berenice (1941–2011), singer". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/103538. Cyrchwyd 2020-09-10.
  2. "Dame Margaret Price | Trinity Laban". www.trinitylaban.ac.uk. Cyrchwyd 2020-09-10.[dolen marw]
  3. Laura Macy (gol); The Great Book of Opera Singers tud:392 Erthygl:Price, Dame Margaret (Bernice); Gwasg Prifysgol Rhydychen 2008. ISBN 9780195337655
  4. 4.0 4.1 "Soprano Margaret Price dies, 69". BBC News. 2011-01-29. Cyrchwyd 2020-09-10.
  5. 5.0 5.1 "Dame Margaret Price: Opera singer noted for her tonal splendour and". The Independent. 2011-02-02. Cyrchwyd 2020-09-10.
  6. "Dame Margaret Price". The Telegraph. Cyrchwyd 2020-09-10.
  7. WalesOnline (2011-02-05). "Opera legend Dame Margaret Price". WalesOnline. Cyrchwyd 2020-09-10.
  8. "Angladd y Fonesig Margaret Price". 2011-02-12. Cyrchwyd 2020-09-10.
  9. "Y Fonesig Margaret Price". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2020-09-10.
  10. Live, North Wales (2011-04-15). "Margaret Price Brenhines y Gân". North Wales Live. Cyrchwyd 2020-09-10.