Wyn Lewis Williams
Mae Syr Wyn Lewis Williams, CCDC (ganwyd 31 Mawrth 1951) yn farnwr Cymreig a wasanaethodd fel Llywydd y Tribiwnlysoedd Cymreig hyd 2023. Roedd wedi bod yn farnwr yr Uchel Lys o 2007 hyd ei ymddeoliad ar 10 Chwefror 2017.[1]
Wyn Lewis Williams | |
---|---|
Ganwyd | 31 Mawrth 1951 Glynrhedynog |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | barnwr, bargyfreithiwr |
Gwobr/au | Marchog Faglor, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguGaned Wyn Lewis Williams yn Glynrhedynog, y Rhondda yn blentyn i Ronald a Nellie Williams. Addysgwyd ef yn ysgol gramadeg sirol y Rhondda, Coleg Corpus Christi, Rhydychen, ac Ysgol y Gyfraith Ysbytai'r Brawdlys yn Llundain.
Gyrfa gyfreithiol
golyguGalwyd Williams i'r bar yn y Deml Fewnol ym 1974 a'i ddyrchafu'n feinciwr yn 2007 . Bu’n ymarfer y gyfraith yng Nghaerdydd o 1974 i 1988 ac yn Llundain o 1988 i 2004. Daeth yn Gwnsler y Frenhines ym 1992, a gwasanaethodd fel cofnodwr Llys y Goron hyd iddo gael ei benodi’n farnwr Siawnsri arbenigol i Gymru yn 2004. Ar 11 Ionawr 2007, penodwyd Williams yn farnwr Uchel Lys, gan gael ei urddo'n farchog yn ôl y drefn arferol, a'i benodi i Adran Mainc y Frenhines. Gwasanaethodd fel barnwr llywyddol ar gyfer Cylchdaith Cymru ac fel Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn Ffiniau i Gymru.[2]
Fe'i penodwyd yn llywydd tribiwnlysoedd Cymru ym mis Rhagfyr 2017. Bu'n aelod o’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru rhwng 2017 a 2019.[3]
Ym mis Chwefror 2022 dechreuodd cadeirio'r Ymchwiliad Statudol i sgandal Swyddfa'r Post Prydeinig, y rhagwelir y bydd yn parhau hyd at haf 2024.[4]
Gweithgareddau eraill
golyguMae'n weithgar mewn sawl sefydliad, yn llywydd Côr Meibion Pendyrus,[5] ac mae ganddo gysylltiad agos â Chlwb Rygbi Pendyrus, y clwb rygbi undeb y bu'n chwarae iddo pan oedd yn ifanc. Ymhelaethwyd ar ei gysylltiad â rygbi yn 2012 pan gafodd ei benodi’n gadeirydd annibynnol di-dâl y Bwrdd Gêm Ranbarthol Broffesiynol, sefydliad a sefydlwyd gan Undeb Rygbi Cymru i ailstrwythuro’r gamp yng Nghymru.[6]
Mae'n Gymrawd etholedig o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Y Cymro sy'n cadeirio'r ymchwiliad cyhoeddus i fethiannau system Horizon Swyddfa'r Post". newyddion.s4c.cymru. 2024-01-11. Cyrchwyd 2024-01-12.
- ↑ "Sir Wyn Williams - Administrative Justice Council" (yn Saesneg). 2018-10-01. Cyrchwyd 2024-01-12.[dolen farw]
- ↑ "Syr Wyn Williams: Comisiynydd | LLYW.CYMRU". www.llyw.cymru. Cyrchwyd 2024-01-12.
- ↑ "The Chair of the Post Office Horizon IT Inquiry". Post Office Horizon IT Inquiry (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-12.
- ↑ WalesOnline (2008-02-28). "President sets bench mark". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-01-12.
- ↑ "Sir Wyn Williams to chair new board - Welsh Rugby Union". Welsh Rugby Union | Wales & Regions (yn Saesneg). 2012-12-05. Cyrchwyd 2024-01-12.
- ↑ Wales, The Learned Society of. "Wyn Williams". The Learned Society of Wales. Cyrchwyd 2024-01-12.