Wyn Thomas (actor)

(Ailgyfeiriad o Wyn Thomas)

Actor radio a phensaer o Gymro oedd Wyn Thomas (1929 – Ionawr 2017) a gydnabyddir yn un o'r actorion radio cynharaf i weithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Wyn Thomas
Ganwyd1929 Edit this on Wikidata
Penparcau Edit this on Wikidata
Bu farwIonawr 2017 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpensaer Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd ym Mhenparcau ger Aberystwyth a bu'n byw ym Mae Colwyn a Llundain, cyn ymgartrefu yng Nghaerdydd.

Yn 14 oed, cafodd ei gyfweliad cyntaf ar gyfer dramâu radio a bu'n actor ar radio drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg am ddegawdau. Bu'n cydweithio gydag actorion amlwg fel Siân Phillips, a Myfanwy Talog.[1]

Gyrfa golygu

Roedd yn chwarae rhan Alec ar y gyfres radio 'SOS Galw Gari Tryfan', drama dditectif a ddarlledwyd gan y BBC yng y 1950au. Dywedodd y darlledwr Hywel Gwynfryn fod y gyfres yn "un o'r cyfresi mwyaf cyffrous fu ar y radio erioed" a roedd Wyn yn "arloeswr ym myd actio yn nyddiau cynnar dramau radio yng Nghymru".

Roedd yn bensaer wrth ei alwedigaeth, a cafodd ei ddisgrifio gan Sefydliad Tirwedd Cymru fel y pensaer tirwedd a oedd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf yn hanes Cymru.[1]

Bywyd personol golygu

Priododd Anne Thomas a chawsant bedwar plentyn: Sion, Sara, Rhys a Nia a saith wyr: Alus, Beth, Wil, Harri, Elis, Nansi ac Ifan.[1]


Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 Cofio actor radio arloesol 'SOS Galw Gari Tryfan' , BBC Cymru Fyw, 19 Ionawr 2017.