Theatr Fach y Gegin

cwmni theatr yng Nghricieth

Cwmni theatr a sefydlwyd yng Nghricieth rhwng 1962 a 1963 gan y dramodydd Wil Sam Jones, ei frawd Elis Gwyn Jones, Emyr Humphreys ac Wyn Thomas yw Theatr Fach y Gegin neu Theatr y Gegin.[1] Bu'n lwyfan dylanwadol iawn i gychwyn gyrfaoedd rhai o actorion a dramodwyr blaenllaw Cymru fel Stewart Jones, John Pierce Jones, Guto Roberts a Meic Povey. Cartref y cwmni oedd hen Neuadd y Dref yng Nghricieth.[2] Disgrifiodd rhai sylwebwyr y cwmni a'r neuadd fel "canolfan gelfyddydau" newydd.[3]

Theatr Fach y Gegin
Lluniau o Wil Sam a chriw Theatr Fach y Gegin ar gefn y gyfrol o ddramâu Dinas Barhaus.
Enghraifft o'r canlynolcwmni o actorion Edit this on Wikidata
Daeth i ben1976 Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cysylltir gydaW. S. Jones a Stewart Jones a Guto Roberts
Dechrau/Sefydlu1962 Edit this on Wikidata
LleoliadCricieth Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

"Gweithdy drama oedd Y Gegin ac mi fu'n bwysig iawn i mi," medde Wil Sam yn ei hunangofiant.[4] Ym 1963 yr agorodd Theatr Fach y Gegin ei drysau am y tro cynta ond roedd 'na dipyn go lew o draddodiad drama yn y cylch ymhell cyn hynny.

Trwy ei frawd, Elis Gwyn Jones y daeth Wil Sam i gysylltiad gydag Emyr Humphreys, a hynny yn ystod y 1950au cynnar. Dod fel athro i'r un ysgol ag Elis Gwyn ym Mhwllheli wnaeth Humphreys, "...sef y dyn oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu'r Gegin yn [19]62," ychwanegodd Wil Sam.[4] Ym mis Mehefin 1962 y daeth y syniad, tra bod Emyr Humphreys ar ymweliad â Chricieth. "Digwydd deud bod hen Neuadd y Dref yng Nghricieth yn wag a dim defnydd yn cael ei wneud ohoni hi" eglura Wil Sam, "...a chyn pen deng munud, [...] [roedden ni'n] dau'n sefyll y tu allan i'r neuadd sy'n swatio yng nghysgod Castell Cricieth", cyfaddefodd wrth Gwenno Hywyn yn ei gyfrol hunangofiannol o Gyfres y Cewri ym 1985.[4]

Roedd y ddau ohonynt yn gweld posibiliadau di-ben draw yn yr adeilad, a dechreuwyd holi Cynghorwyr tref Cricieth am argaeledd yr adeilad. Gan y Cynghorydd Dafydd Lloyd Roberts y cawsant y mwyaf o gefnogaeth yn ôl Wil Sam; "mi aeth Emyr cyn belled ag awgrymu prynu'r hen neuadd ond doedd y cynghorydd ddim yn cytuno â gwerthu eiddo'r cyngor. Yn hytrach, mi addawodd wneud ei orau i berswadio'r cyngor i'w rhentu hi inni a thrwy fod yn ddetha ac yn wrol mi lwyddodd i'w chael inni ar rent eitha rhesymol," ychwanegodd.[4]

"Mi sylweddolais bod yno lwyfan i bawb oedd yn awyddus i gyfrannu, boed actor, boed gyfarwyddwr neu boed sgwennwr. Chyfyngwyd mor lle i ddramâu chwaith. Mi gawson ddarlleniadau a darlithoedd, nosweithiau llawen a hyd yn oed syrcas unwaith"[4]

Trefnwyd bod y saer coed "Robat Bron Dwyfor, Llanystumdwy - un fu'n gryn gefn i'r Gegin" i fynd ati i wneud bocs i ddal yr enw 'Y Gegin' uwchben y drws. Ond cyn y cawsai unrhyw gwmni yr hawl i berfformio ar y llwyfan, bu'n rhaid cael trwydded berfformio cyhoeddus, a "newid dipyn go lew arni hi", yn ôl Wil Sam.[4] "Doedd y drysau ddim i fyny â'r gofynion am eu bod nhw'n agor at i mewn yn lle at allan a rhaid oedd prynu chwech o ddiffoddwyr tân a'u gosod mewn lle amlwg a hwylus ar y parwydydd. Slap hegar oedd hon. Mae diffoddwyr tân, yn enwedig y rhai mawr fflamgoch ar gyfer lleoedd cyhoeddus, yn hen gnafon drud."[4]

Lledaenwyd y llwyfan, a phrynwyd goleuadau addas ar gyfer y cynyrchiadau, a gwnaed y gwaith i gyd yn ddi-dâl. Cynhaliwyd arddangosfeydd yn ystod yr Haf, er mwyn talu am weithgaredd y Gaeaf. Ym 1964, gwelwyd arddangosfa o ddillad Laura Ashley yno.[4]

Ym mis Ebrill 1964 y cynhaliwyd y noson gyntaf o ddramâu yn y Theatr gan Gymdeithas Ddrama Prifysgol Bangor.[5] Dilynwyd hynny gan gynhyrchiad Cwmni Llanystumdwy / [Theatr y Gegin]? o ddrama Wil Sam, Dalar Deg ac wedyn cynhyrchiad cyntaf y cwmni o Y Gofalwr, cyfieithiad Elis Gwyn o ddrama Pinter, The Caretaker.[5]

Parhaodd y gweithgaredd yn Y Gegin tan 1976, pan dderbyniwyd llythyr oddi wrth Gyngor Tref Cricieth yn gofyn i'r cwmni "glirio'n pethau o fewn y mis, am fod pensaer yn dwad draw ar eu cais, i gael golwg ar yr adeilad gan eu bod yn bwriadu ei ddefnyddio i'w pwrpas eu hunain," esbonia Wil Sam. "Os cawsom wefr o agor drws Y Gegin am y tro cynta yn 1963, torcalon oedd gorfod ei gloi am y tro olaf yn 1976," ychwanegodd.[4]

Yr enw

golygu

Emyr Humphreys awgrymodd yr enw "Y Gegin", "am mai lle i goginio neu i ddarparu ydi cegin. Mae'r enw hefyd yn awgrymu gweithdy drama yn ogystal â theatr." [4]

"Roedd ambell un yn teimlo y dylen ni fod wedi ffurfio cymdeithas yn hytrach na chwmni", medde Wil Sam yn ei hunangofiant. "Does dim dwywaith nad oes llawer i'w ddweud dros gymdeithas ond, yn fy marn i, go brin y basai'r Gegin wedi cadw ei drysau'n agored am ddeuddeng mlynedd tasai hi'n Gymdeithas y Gegin yn hytrach na Chwmni'r Gegin."[4]

Cynyrchiadau llwyfan

golygu

Rhwng 1964 a 1976, llwyfannwyd 65 o ddramâu yn Theatr Fach y Gegin.[4] Cyflwynwyd perfformiadau gan actorion Y Gegin trwy wahoddiad yn Eisteddfodau Cenedlaethol 1964, 1965, 1966 a 1968 ac yng Ngŵyl Ddrama Genedlaethol Cymru yn 1964 a 1966; yng Ngŵyl Ddrama Garthewin 1968; yng Ngŵyl Ddrama Pwllheli yn 1964, 1966 a 1968; yn Theatr Eryri yn 1966; ac yng Ngŵyl Dinas Bangor yn 1970.[4]

Ond cafwyd cyngherddau hefyd ar lwyfan y Theatr gan grwpiau ac enwau cyfarwydd fel Dafydd Iwan, Aled a Reg, Hogia'r Wyddfa, Y Pelydrau, Edward Morus Jones, Y Diliau, Heather Jones, Huw Jones, Ryan a Ronnie a Hywel Gwynfryn.

"Trwy ddychymyg a charedigwydd John Gwilym Jones ac Emyr Humphreys roedden ni'n llwyddo i gael perfformiadau gan Gymdeithas y Ddrama Gymraeg, Coleg y Brifysgol Bangor, bob hyn a hyn. Dwi'n cofio i Cilwg Yn Ôl, cyfieithiad John Gwilym Jones o Look Back In Anger John Osbourne wneud argraff a phlesio'n arw iawn. Mi gawson gyflwyniadau Saesneg hefyd, erbyn meddwl."[4]

Cynyrchiadau nodedig

golygu

1960au

golygu

1970au

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Evans, Meredydd (2000). Y Fo - Guto. Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 9780863816529.
  2. "Cricieth - Hen Neuadd y Dref". Casgliad y Werin Cymru. Cyrchwyd 2024-09-16.
  3. "Production to be an experiment". The Stage. 2 Medi 1965.
  4. 4.00 4.01 4.02 4.03 4.04 4.05 4.06 4.07 4.08 4.09 4.10 4.11 4.12 4.13 Hywyn, Gwenno (1985). Wil Sam - Cyfres Y Cewri 5. Gwasg Gwynedd.
  5. 5.0 5.1 Owen, Roger (2000). Llwyfannau Lleol: Theatr y Gegin. Gomer.
  6. "Harold Pinter". pinterlegacies.uk. Cyrchwyd 2024-09-16.
  7. 7.0 7.1 "BBC Television". www.78rpm.co.uk. Cyrchwyd 2024-10-06.