X-Press Pearl
Roedd X-Press Pearl yn llong gynhwysydd dosbarth Super Eco 2700 a gofrestrwyd yn Singapore. Fe'i lansiwyd yn Chwefror 2021 ac roedd tua 186 metr (610 tr) o hyd.[1] Fe'i gweithredwyd gan X-Press Feeders pan longddrylliwyd hi gan achosi trychineb ecolegol.
Enghraifft o'r canlynol | llong gynwysyddion |
---|---|
Gweithredwr | X-Press Feeders Group |
Gwneuthurwr | Zhoushan Changhong International Shipyard |
Hyd | 186 metr |
Tunelledd gros | 30,911 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar 20 Mai 2021, aeth yr X-Press Pearl ar dân oddi ar arfordir Colombo, Sri Lanca.[2] Erbyn 27 Mai roedd wedi llosgi'n ulw a datganwyd ei bod yn golled lwyr.[3] Ar ôl llosgi am 12 diwrnod, suddodd y llong ar 2 Mehefin wrth iddi gael ei thynnu i ddyfroedd dyfnach.[4][5] Ystyriwyd mai'r digwyddiad oedd y trychineb ecolegol morol gwaethaf yn hanes Sri Lanka[6][7] oherwydd y cemegolion a lifodd ohoni ac i'r môr.[8]
Yn ôl y perchnogion X-Press Feeders,[9] dechreuodd y broses o'i hachub ac i gael gwared ar y sgerbwd llong yn Nhachwedd 2021. Fodd bynnag, amharwyd ar y gwaith achub yn ystod monsŵn y de-orllewin rhwng diwedd Ebrill a Thachwedd 2022.
Tân
golyguRoedd X-Press Pearl yn cario 1,486 o gynwysyddion, rhai'n cynnwys 25 tunnell o asid nitrig (y gellir ei ddefnyddio wrth gynhyrchu gwrtaith a ffrwydron), cemegau eraill, colur a phelenni polyethylen dwysedd isel (LDPE). Gadawodd y porthladd Hazira ar 15 Mai 2021, gan gyrraedd Colombo ar 19 Mai.[10][11] Erbyn 11 Mai roedd y criw wedi darganfod bod cynhwysydd a lwythwyd yn Jebel Ali yn gollwng asid nitrig, ac wedi gofyn i borthladdoedd Hamad a Hazira ganiatáu iddo gael ei ddadlwytho, ond ni roddwyd caniatâd.[12] Yn ôl X-Press Feeders, gwrthodwyd y ceisiadau gan “nad oedd unrhyw gyfleusterau arbenigol nac arbenigedd ar gael ar unwaith i ddelio â’r asid a oedd yn gollwng”, ac aeth y llong ymlaen ar ei thaith arfaethedig i Colombo.[13]
Cyrhaeddodd y llong Colombo fin nos, ar 19 Mai a chafodd ei hangori yn yr harbwr allanol yn aros am angorfa. Ni ddatganodd y llong argyfwng ar gyfer y gollyngiad asid cargo. Ar 20 Mai gofynnodd asiantau'r llong am drwsio'r cynhwysydd. Dywedodd yr Harbwrfeistr Nirmal de Silva fod gan hwbcwmni-morol yng Ngholombo yr arbenigedd i helpu. Yna cyhoeddodd y llong ei bod ar dân, yr oedd y criw wedi'i ddiffodd gan ddefnyddio ei system ar fwrdd.[14]
Adroddwyd bod y llong wedi mynd ar dân ar 20 Mai, 9.5 milltir morol 17.6 km; 10.9 milltir) i'r gogledd-orllewin o Borthladd Colombo.[15] Roedd Llynges Sri Lanca, ynghyd ag Awdurdod Porthladdoedd Sri Lanca, a aeth ar fwrdd y llong er mwyn darganfod achos y tân, yn amau y gallai’r tân fod wedi cychwyn o ganlyniad i adwaith cemegau a oedd yn cael eu cludo ar y llong.[16] Yn y cyfnod yma roedd gan y llong griw o 25 aelod ar fwrdd y llong.[17]
Ar 25 Mai, bu ffrwydrad mawr y tu mewn i'r llong a chludwyd pob un o'r 25 aelod o'r criw o'r llong [18][19] Aethpwyd a dau aelod o'r criw a gafodd anafiadau yn ystod y ffrwydrad i Ysbyty Cenedlaethol Colombo yn Sri Lanca.[20][21]
Parhaodd y tân yn ystod 25 Mai, ac erbyn diwedd y prynhawn roedd cynwysyddion i'w gweld yn arnofio ar wyneb y môr.[22] Anfonodd India longau ymladd tân a llongau atal a rheoli llygredd, tynfad ac awyren morwrol Dornier i helpu gyda mesurau cyfyngu, a gofynnwyd i bysgotwyr gadw'n bell o'r llong.[23][24]
Dywedodd Cadeirydd MEPA Dharshani Lahandapura ar 26 Mai fod 378 tunnell o olew ar fwrdd y llong a gallai tua hanner hynny ollwng i’r môr ar ôl i’r tân ddiffodd. Ataliwyd gosod bwmau cyfyngu olew o amgylch y llong gan y tywydd, ond roedd awdurdodau'n barod i lanhau unrhyw olew a gyrhaeddodd y lan.[25] Erbyn y bore, roedd malurion llosg a rhywfaint o gargo wedi disgyn i'w gweld ar arfordir Negombo Sri Lanka.[26] Ar 29 Mai, roedd X-Press Pearl yn dal i fudlosgi a mygu, er bod y fflamau wedi'u diffodd.[27]
Difrod amgylcheddol
golyguRoedd llygredd pelenni resin plastig o gargo a gollwyd i'w canfod ar draethau Sri Lanca o 27 Mai. Daeth pelenni LDPE hefyd ar lannau cyfagos.[28] Yn ôl MEPA, roedd tri chynhwysydd o belenni plastig ar fwrdd y llong, pob un yn pwyso 26,000 kg.[29][30]
Disgrifiodd Laurel Wamsley o NPR y digwyddiad fel trychineb amgylcheddol ym Mehefin 2021.[31]
Gwaharddodd awdurdodau Sri Lanka bysgota arfordirol o Kalutara i Negombo, oherwydd ofnau halogiad.[32] Roedd tua 5,600 o gychod undydd yn methu mentro allan ac thalodd y llywodraeth iawndal i'w digolledu.[33] Anogwyd pobl hefyd gan MEPA i beidio â chyffwrdd ag unrhyw falurion o'r llong gynhwysydd gan eu bod wedi'i halogi â sylweddau gwenwynig.[34] [35]
O'r 1,486 o gynwysyddion, roedd 81 o'r rheini'n cael eu hystyried yn gynwysyddion peryglus niweidiol gwenwynig gan gynnwys pum tunnell o asid nitrig. [36][37]
Ym Mehefin 2021, adroddwyd bod y llong gynhwysydd wedi suddo, ac y byddai hyn yn sbarduno effeithiau andwyol ar rywogaethau morol.[38] Ar 2 Mehefin, ceisiwyd tynnu'r tynnu X-Press Pearl i ffwrdd o'r arfordir pan darodd y starn y creigiau, a rhoddwyd gorau i'r ymdrech. Dywedodd Capten Llynges Sri Lanca, Indika de Silva, nad oedd yn glir a oedd unrhyw olew heb ei losgi ar ôl yn y llong.[39]
Ymddiheurodd Prif Weithredwr X-Press Feeders Shmuel Yoskovitz i bobl Sri Lanca am y digwyddiad. “Hoffwn fynegi fy edifeirwch ac fy ymddiheuriadau mwyaf dwys i bobl Sri Lanca am y niwed oherwydd y digwyddiad hwn i fywoliaeth ac amgylchedd Sri Lanca,” mewn cyfweliad â Channel News Asia yn Singapore.[40] Parhaodd awdurdodau Sri Lanca i gasglu malurion a phelenni plastig. Roedd tua 34 o gynwysyddion wedi'u llenwi â malurion o X-Press Pearl.[41] Roedd yr awdurdodau wedi casglu 1,075 tunnell o falurion, gan gynnwys tywod, a oedd yn cael eu storio mewn cynwysyddion erbyn 8 Mehefin.[42]
Ar 15 Mehefin 2021, adroddwyd bod tua 40 o grwbanod marw wedi eu golchi ar y lan.[43][44] Hefyd, roedd llawer o rywogaethau o bysgod, morfilod, ac o leiaf chwe dolffin hefyd, gyda marciau llosgi drostynt wedi cyrraedd y glannau. Credir fod llawer o rywogaethau dyfrol hefyd yn cael eu heffeithio'n ddifrifol gan wasgariad y pelenni plastig.[45][46][47]
Effaith economaidd
golyguGorchmynnwyd pysgotwyr lleol yn Sri Lanca i aros ar y lan oherwydd y llygredd, gan effeithio ar mân economïau lleol. Dywedodd Denzil Fernando, pennaeth undeb pysgota rhanbarthol, y bydd y gwaharddiad pysgota yn effeithio ar 4,300 o deuluoedd.[8] Amcangyfrifodd Rob Hawes, pennaeth morol yr aseswr colled Crawford & Co. y gallai colled cargo'r X-Press Pearl amrywio rhwng $30 miliwn a $50 miliwn yn ychwanegol at golli'r llong ei hun.[48]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "X Press Pearl". www.marinetraffic.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2021. Cyrchwyd 22 Mai 2021.
- ↑ "Sri Lanka faces environmental disaster as cargo ship burns for days – video". The Guardian (yn Saesneg). 31 Mai 2021. ISSN 0261-3077. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2021. Cyrchwyd 3 Mehefin 2021.
- ↑ "Singapore flagged X-Press Pearl under watch off Sri Lanka after fire". EconomyNext (yn Saesneg). 21 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mai 2021. Cyrchwyd 22 Mai 2021.
- ↑ "Disaster feared as fire-hit cargo ship sinks off Sri Lanka coast". www.aljazeera.com (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2021. Cyrchwyd 2 Mehefin 2021.
- ↑ "Chemical cargo ship sinks in one of Sri Lanka's worst-ever marine disasters". France 24 (yn Saesneg). 2 Mehefin 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2021. Cyrchwyd 2 Mehefin 2021.
- ↑ ""Worst Marine Ecological Disaster": Sri Lanka On Cargo Ship Fire". NDTV.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mai 2021. Cyrchwyd 31 Mai 2021.
- ↑ "Sri Lanka faces disaster as burning ship spills chemicals on beaches". the Guardian (yn Saesneg). 31 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Mai 2021. Cyrchwyd 31 Mai 2021.
- ↑ 8.0 8.1 "X-Press Pearl: Sri Lanka braces for environmental disaster from sunken ship" (yn Saesneg). BBC News. 3 Mehefin 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2021. Cyrchwyd 4 Mehefin 2021.
- ↑ X-Press Pearl Incident Information Centre, X-Press Feeders.
- ↑ Pal, Alasdair (2 Mehefin 2021). "Chemical cargo ship sinks off Sri Lanka, fouling rich fishing waters". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2021. Cyrchwyd 3 Mehefin 2021.
- ↑ Mohan, Sulochana Ramiah (29 Mai 2021). "X-Press Pearl operators, Captain, local agent under probe". Ceylon Today. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mai 2021. Cyrchwyd 4 Mehefin 2021.
- ↑ "Sri Lanka: Chemical-filled X-Press Pearl ship threatens marine life and beaches". BBC.
- ↑ "X-Press Pearl entered Hazira and Hamad ports before reaching Sri Lanka: owners". EconomyNext. 27 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Mai 2021. Cyrchwyd 27 Mai 2021.
- ↑ "X-Press Pearl fire origin is still a mystery, Sri Lanka official says". EconomyNext. 28 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2021. Cyrchwyd 3 Mehefin 2021.
- ↑ "Container fire erupts onboard X-Press Feeders vessel in Colombo". Seatrade Maritime. 21 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mai 2021. Cyrchwyd 22 Mai 2021.
- ↑ "Firefighters in Sri Lanka battle container blaze on X-Press Pearl". The Loadstar. 21 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mai 2021. Cyrchwyd 22 Mai 2021.
- ↑ "Navy assists dousing of fire in vessel carrying chemicals anchored off Colombo". Daily News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Mai 2021. Cyrchwyd 22 Mai 2021.
- ↑ "Explosion aboard MV X-PRESS PEARL; crew evacuated". Sri Lanka News – Newsfirst. 25 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2021. Cyrchwyd 25 Mai 2021.
- ↑ "Explosion reported in 'X-Press Pearl' ship, crew members rescued". Daily News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2021. Cyrchwyd 25 Mai 2021.
- ↑ "X-PRESS PEARL: 02 Indian crew members admitted to Hospital". Sri Lanka News – Newsfirst (yn Saesneg). 25 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2021. Cyrchwyd 25 Mai 2021.
- ↑ "Crew evacuated after explosion on container ship off Colombo". Al Jazeera Media Network. 25 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mai 2021. Cyrchwyd 26 Mai 2021.
- ↑ Hamza, Mahadiya (25 March 2021). "Blazing X-press Pearl off Sri Lanka triggers Tier II oil spill warning". EconomNext.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2021. Cyrchwyd 25 Mai 2021.
- ↑ "India sends ships, aircraft to help Sri Lanka control oil spill, X-press Pearl blaze". EconomyNext.com. 25 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2021. Cyrchwyd 25 Mai 2021.
- ↑ "Sri Lanka fishermen warned off X-Pres Pearl fire zone amid oil spill fears: Minister". EconomyNext.com. 25 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mai 2021. Cyrchwyd 25 Mai 2021.
- ↑ "Sri Lanka prepares for oil spill as burning X-Press Pearl spews cargo and charred debris". EconomyNext.com. 26 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mai 2021. Cyrchwyd 26 Mai 2021.
- ↑ "Sri Lanka's Western coast contaminated with debris from burning ship". Newsfirst.com. 26 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mai 2021. Cyrchwyd 26 Mai 2021.
- ↑ "X-Press Pear sinking off Sri Lanka while being towed". EconomyNext.com. 2 Mehefin 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2021. Cyrchwyd 2 Mehefin 2021.
- ↑ "Authorities scramble to clear debris from troubled MV X-Press Pearl | Daily FT". Ft.lk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2021. Cyrchwyd 2021-06-03.
- ↑ "Sri Lanka battles waves of plastic waste from burning ship". Yahoo.com. AFP. 28 Mai 2021.
- ↑ "Sri Lanka braces for 'almost inevitable' oil spill as ship sinks". Al Jazeera. Al Jazeera. 2 Mehefin 2021.
- ↑ "Sri Lanka Faces An Environmental Disaster As A Ship Full Of Chemicals Starts Sinking". NPR.org (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2021. Cyrchwyd 2021-06-03.
- ↑ "Burning cargo vessel could result in slight acid rains in Sri Lanka: Authorities". The Hindu (yn Saesneg). 29 Mai 2021. ISSN 0971-751X. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 Mai 2021. Cyrchwyd 29 Mai 2021.
- ↑ "Si Lanka halts coastal fishing over X-Press Pearl pollution hitting 5,600 boats". EconomyNext. 28 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2021. Cyrchwyd 29 Mai 2021.
- ↑ "Do not touch 'toxic' debris from 'X-Press Pearl' – MEPA". www.adaderana.lk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2021. Cyrchwyd 31 Mai 2021.
- ↑ "Sri Lanka: Central Environmental Authority issues guidelines for removal of debris from MV X-Press Pearl". www.colombopage.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Mai 2021. Cyrchwyd 31 Mai 2021.
- ↑ "Sri Lanka Faces An Environmental Disaster As A Ship Full Of Chemicals Starts Sinking". NPR.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2021. Cyrchwyd 3 Mehefin 2021.
- ↑ "X-Press Pearl salvors mull boarding as Sri Lanka eyes pollution claim". EconomyNext. 31 Mai 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mehefin 2021. Cyrchwyd 3 Mehefin 2021.
- ↑ "Fears of environmental disaster as oil-laden ship sinks off Sri Lanka". BBC News (yn Saesneg). 2 Mehefin 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2021. Cyrchwyd 2 Mehefin 2021.
- ↑ "X-Press Pearl stern hits bottom aborting tow, Sri Lanka renews oil spill watch". EconomyNext.com. 2 Mehefin 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mehefin 2021. Cyrchwyd 2 Mehefin 2021.
- ↑ "CEO of vessel operator apologises for impact of sunken container ship off Sri Lanka coast". channelnewsasia.com. 3 Mehefin 2021. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-06-04. Cyrchwyd 4 Mehefin 2021.
- ↑ "Sri Lanka in biggest ever nurdle hunt after X-Press Pearl spill, volunteer hunters arrested". EconomyNext.com. 4 Mehefin 2021. Cyrchwyd 4 Mehefin 2021.
- ↑ "Sri Lanka scrapes 1,075 tonnes of X-Press Pearl waste off shores". EconomynNext. 9 Mehefin 2021. Cyrchwyd 10 Mehefin 2021.
- ↑ "X-Press Pearl: Sri Lanka forms expert groups for environmental, economic costs". EconomyNext.com. 8 Mehefin 2021. Cyrchwyd 10 Mehefin 2021.
- ↑ "Dead sea turtles continue to wash up on SL shores; Authorities plan to seek maximum compensation". Newsfirst.lk. 7 Mehefin 2021. Cyrchwyd 10 Mehefin 2021.
- ↑ "Dead Sea Turtles Continue To Wash Up On Sri Lankan Shores". newsfirst. Cyrchwyd 2021-06-14.
- ↑ "Dead whales, turtles & dolphins wash up on SL shores; Activists warn numbers could rise". newsfirst. Cyrchwyd 2021-06-14.
- ↑ "Nurdles: the worst toxic waste you've probably never heard of". the Guardian (yn Saesneg). 2021-11-29. Cyrchwyd 2021-11-30.
- ↑ "X-Press Pearl loss will add to insurers' container ship headaches" (yn Saesneg). S&P Global. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Mai 2021. Cyrchwyd 4 Mehefin 2021.