Cwmni milwrol preifat Americanaidd yw Xe (ynganiad: 'Si') gyda'i bencadlys yn nhreflan Moyock, Gogledd Carolina, UDA, sy'n adnabyddus am ei waith dadleuol yn Irac ac Affganistan. Hyd 13 Chwefror 2009 roedd yn adnabyddus fel Blackwater Worldwide a chyn hynny fel Blackwater USA; cyfeirir ato yn gyffredinol fel "Blackwater" o hyd. Cafodd ei sefydlu gan Erik Prince ac Al Clark yn 1997. Mae'r cwmni yn disgrifio ei hun fel "cwmni milwrol preifat" ond mae sawl un yn ei galw yn "fyddin breifat" ac yn "hurfilwyr".[1] Yn ogystal â gwasanaethu milwrol, mae'r cwmni wedi ehangu ei weithgareddau i sawl cyfeiriad, yn cynnwys y cwmni technoleg gwybodaeth Total Intelligence Solutions.

Xe
Math
busnes
Math o fusnes
cwmni cyfyngedig (UDA)
Sefydlwyd1997
SefydlyddErik Prince, Al Clark
PencadlysMcLean, Virginia
Gwefanhttps://www.academi.com/ Edit this on Wikidata


Logo newydd Xe/Blackwater

Hanes golygu

Prif gyflogwr Xe yw llywodraeth yr Unol Daleithiau. Erbyn Mawrth 2006, roedd y cwmni wedi ennill $1,024,000,000 trwy ei gytundebau gyda'r llywodraeth, yn bennaf am ei waith yn Irac ac Affganistan.

Yn 2010, cafodd Xe gontract gan y CIA yn Affganistan. Am $120 miliwn, bydd un o is-gwmnïau Xe yn amddiffyn llysgenhadau UDA yn Herat a Mazar-i-Sharif am 18 mis.[2]

Gweithgareddau dadleuol golygu

Mae gweithgareddau'r cwmni yn Irac ac Affganistan yn ddadleuol. Mae sawl un wedi ei feirniadu am ei ddulliau a'i gyhuddo hefyd o lofruddio pobl yn y stryd.

Un o'r achlysuron gwaethaf oedd digwyddiad yng nghanol Baghdad ar 16 Medi 2007. Yn ôl yr adroddiad yn y papur newydd o'r Swistir, Le Temps: "Aeth y bwled trwy ben Haithem Ahmed. Doedd dim rhybudd o flaen llaw, dim straen arbennig ym Baghdad, ond lladdwyd yr Iraciad hwn yn ymyl ei fam wrth iddo yrru ei fodur yn y stryd. Gyda'r gyrrwr yn farw, crashiodd y modur. Ac yna dechreuodd “hurfilwyr” Blackwater saethu : tanwyd rhai cannoedd o fwledi ganddynt yn Sgwar Nisour, llawn o bobl, a cheisiodd pobl a ddigwyddai fod yn cerdded heibio ffoi a chuddio. Taflwyd grenades, a daeth rhai o hofrenyddion Blackwater i orffen y gwaith. Erbyn y diwedd roedd o leiaf 17 sifiliaid Iracaidd wedi'u lladd a 24 wedi'u hanafu."[3] O ganlyniad, gorchmynodd llywodraeth Irac y cwmni i atal ei weithgareddau yn y wlad.

Is-gwmnïau golygu

  • United States Training Center (Gogledd Carolina)
  • Blackwater Target Systems (cwmni arfau)
  • Blackwater Security Consulting
  • Blackwater K-9
  • Blackwater Airships LLC
  • Blackwater Armored Vehicle
  • Blackwater Maritime Solutions
  • Raven Development Group
  • Aviation Worldwide Services
  • Greystone Limited
  • Total Intelligence Solutions

Cyfeiriadau golygu

  1. Le temps Archifwyd 2012-06-04 yn Archive.is.
  2. Le Figaro, 28.06.2010.
  3. Le Temps[dolen marw], 04.10.2007. Troswyd o'r Ffrangeg.

Dolenni allanol golygu