Xixón

dinas ac ardal weinyddol yn Asturias

Dinas ddiwydiannol arfordirol yw Xixón (Sbaeneg: Gijón) sydd wedi'i lleoli yng Nghymuned Ymreolaethol Astwrias yng ngogledd Sbaen. Mae hefyd yn israniad gweinyddol a elwir yn Cotarros (Sbaeneg: comarca). Yn ôl testunau hynafol a ddarganfuwyd, cyfeirid at y ddinas fel "Gijia" yn wreiddiol. Roedd hi'n ddinas bwysig yn yr oes Rufeinig, fel y tystia'r gweddillion y daethpwyd o hyd iddynt ger y prom modern. Yn wreiddiol, cyfeiria'r enw "Gijia" at y penrhyn bach a elwir yn Cimadevilla y dyddiau hyn; wrth i'r ddinas ddatblygu a thyfu, datblygodd o gwmpas y traethau sy'n amgylchu'r penrhyn a'r porthladd. Prif borthladd y ddinas yw "El Musel", un o borthladdoedd pwysicaf Sbaen. Mae poblogaeth Xixón yn dal i gynyddu. Ar hyn o bryd, mae tua 275,000 (2005).

Xixón
Mathcouncil of Asturies Edit this on Wikidata
PrifddinasGijón City Edit this on Wikidata
Poblogaeth268,313 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethCarmen Moriyón Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Albuquerque, Tindouf, La Habana, Niort, Novorossiysk, Puerto Vallarta, Smara, Santa Tecla Edit this on Wikidata
NawddsantSant Pedr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirProvince of Asturias Edit this on Wikidata
GwladBaner Sbaen Sbaen
Arwynebedd184.31 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr10 metr Edit this on Wikidata
GerllawMôr Cantabria Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCorvera, Llanera, Carreño, Siero, Sariegu, Villaviciosa Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau43.52931°N 5.67732°W Edit this on Wikidata
Cod post33201–33213, 33200 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
mayor of Gijón Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethCarmen Moriyón Edit this on Wikidata
Map
Baner dinas Xixón
Golygfeydd yn Xixón
Lleoliad Xixón yn Astwrias

Daearyddiaeth

golygu

Lleolir y ddinas yng nghanol Astwrias ar yr arfordir.

Mae'r penrhyn Cimadevilla'n rhannu'r ddinas yn sawl rhan: traeth San Lorenzo a'r cymdogaethau i'r dwyrain a thraethau Poniente ac Arbeyal, y safleoedd ble gwneir cychod a'r porthladd hamdden a phorthladd masnachol El Musel. Mae hefyd yn agos i Oviedo ac Avilés.

Cyrraedd

golygu

Y prif ffyrdd i mewn i'r ddinas yw'r A-66 (Ruta de La Plata), A-8 (Autopista del Cantábrico) a'r AS-1 (Autovía Minera). Ar y trên, mae gwasanaethau dyddiol i Madrid, A Coruña, Santander, a Barcelona. Mae mordeithiau'n galw ym mhorthladd El Musel, a dydy maes awyr Astwrias ddim yn rhy bell i ffwrdd chwaith, ger dinas Avilés.

Hinsawdd

golygu

Mae'r haf yn nodweddiadol o leoedd ger yr Iwerydd a cheir dyddiau heulog a chymylog. Yn y gaeaf, mae'r tywydd yn weddol gymhedrol, mae'n bwrw glaw'n aml (yn wir Astwrias yw ardal wlypaf Sbaen) ac mae'n wyntog hefyd. Mae'n bwrw eira ambell waith er bod hyn yn weddol eithriadol oherwydd lleoliad Xixón ar lefel y môr.

Chwaraeon

golygu

Mae tîm pêl-droed Sporting de Xixón yn cystadlu yng Nghyngrair Sbaen ac mae'r tîm yn yr ail adran ar hyn o bryd. Math arall o chwaraeon sy'n boblogaidd yw pêl-fasged. Mae Xixón Baloncesto yn ail adran pêl-fasged broffesiynol Sbaen.

Cotarros

golygu

Mae Xixón hefyd yn un o 8 Comarques d'Asturies (prif raniad; Sbaeneg: Comarca) yn Asturias.

Ceir tair ardal weinyddol o fewn Xixón a elwir yn Astwrieg yn Conceyu (Comarcas yn Sbaeneg): Villaviciosa, Xixón ei hun (y ddinas) a Carreño.

Gweler hefyd

golygu



Cyfeiriadau

golygu
  1. "Asturias: población por municipios y sexo". Cyrchwyd 6 Ionawr 2018.