Agor y brif ddewislen

Bryngaer enfawr o 28 ha[1] ar Fryn Breiddin ym Maldwyn, Powys yw'r Breiddin (Cyfeirnod OS: SJ29401432) a sefydlwyd yn Oes yr Efydd ac a ddatblygwyd ymhellach dros gyfnod Oes yr Haearn.[2]

Bryngaer Breiddin
Math caer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Lleoliad Bryn Breiddin Edit this on Wikidata
Sir Powys Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.7227°N 3.0442°W Edit this on Wikidata
Cod OS SJ295144 Edit this on Wikidata
Dynodwr Cadw MG021 Edit this on Wikidata

SafleGolygu

Mae'r gaer wedi ei rhannol ddifetha gan chwarela; rhwng 1969 a 1976 cafwyd archwiliadau archaeoleg argyfwng i gofrestru'r darganfyddiadau. Credir i bobl breswylio oddi fewn i'r gaer o'r 8ed ganrif CC hyd y 4g OC.[3]

Credir gan rai mai yma y brwydrodd Caradog ei frwydr olaf a hynny yn erbyn Ostorius Scapula yn 51 O.C.[4]

CefndirGolygu

Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: MG021.[5] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.

Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[6] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[7] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[8]

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu