Bryngaer Breiddin
Bryngaer enfawr o 28 ha[1] ar Graig Freiddin ym Maldwyn, Powys yw Bryngaer Breiddin (Cyfeirnod OS: SJ29401432) a sefydlwyd yn Oes yr Efydd ac a ddatblygwyd ymhellach dros gyfnod Oes yr Haearn.[2] Hi yw'r ail fwyaf o fryngaerau Cymru o ran ei harwynebedd. Gelwir hi weithiau wrth yr enw Caer Freiddin hefyd a Caer Breiddin.
Math | caer lefal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Craig Freiddin |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.7227°N 3.0442°W |
Cod OS | SJ295144 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | MG021 |
Safle
golyguMae'r gaer wedi ei rhannol ddifetha gan chwarela; rhwng 1969 a 1976 cafwyd archwiliadau archaeoleg argyfwng i gofrestru'r darganfyddiadau. Credir i bobl breswylio oddi fewn i'r gaer o'r 8ed ganrif CC hyd y 4g OC.[3]
Credir gan rai mai yma y brwydrodd Caradog ei frwydr olaf a hynny yn erbyn Ostorius Scapula yn 51 O.C.[4]
Cefndir
golyguCofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gan y rhif SAM unigryw: MG021.[5]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Adroddiad gan CADW" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2010-12-18. Cyrchwyd 2010-09-23.
- ↑ "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-08. Cyrchwyd 2010-09-10.
- ↑ "Comisiwn Brenhinol henebion Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2010-09-10.
- ↑ Erthygl "Safiad Olaf Caradog, 51 OC[dolen farw]
- ↑ Cofrestr Cadw.