Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970
Cyhoeddwyd Y Bywgraffiadur Cymreig gan Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion mewn tair cyfrol Gymraeg a dwy gyfrol Saesneg sy’n cwmpasu holl hanes y Cymry amlwg a fu farw cyn y flwyddyn 1970.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Golygydd | E.D. Jones a Brynley F. Roberts |
Cyhoeddwr | Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1 Gorffennaf 1997 |
Pwnc | Bywgraffiadau |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9780900439865 |
Tudalennau | 319 |
Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970 yw'r drydedd gyfrol yn y gyfres, a'r gyfrol olaf i'w hargraffu. Casglwyd mwyafrif yr erthyglau gan y golygydd E. D. Jones cyn ei farwolaeth, a chwblhawyd y gwaith gan y golygydd newydd Brynley F. Roberts. Mae'r gyfrol yn cynnwys bywgraffiadau cryno am y Cymry a wnaeth gyfraniad pwysig i fywyd cenedlaethol yng Nghymru neu’n ehangach ac a fu farw rhwng y blynyddoedd 1951 a 1970. Mae hefyd yn cynnwys atodiad i'r Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 a'r Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950.
Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion a gyhoeddodd y gyfrol ar 01 Gorffennaf 1997. Roedd y gyfrol dal mewn print yn 2013.[1]
Lansiwyd fersiwn electronig dwyieithog Y Bywgraffiadur Cymreig[2] gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 2007, sy’n cynnwys yr holl erthyglau o’r 3 cyfrolau print Cymreig, y 2 gyfrol Saesneg, ac erthyglau newydd am bobl a oedd heb eu cynnwys yn y cyfrolau gwreiddiol, a hefyd bobl a fu farw wedi 1970. Ar lein yn unig y cyhoeddir y Bywgraffiadur erbyn hyn, ac mae’n adnodd cwbl ddwyieithog.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 16 Hydref 2013
- ↑ "Y Bywgraffiadur Cymreig". Y Bywgraffiadur Cymreig. 2007. Cyrchwyd 27 Medi 2017.