Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion

Cymdeithas wladgarol a diwylliannol a sedyflwyd gan Richard Morris yn Llundain yn 1751 yw Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion neu'r Cymmrodorion. Yn y gorffennol, gwnaeth y Gymdeithas gyfraniad blaenllaw i greu sefydliadau fel Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Prifysgol Cymru, y Llyfrgell Genedlaethol a’r Amgueddfa Genedlaethol.

Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion
Enghraifft o'r canlynolcymdeithas cyhoeddi testun ysgrifenedig, cymdeithas ddysgedig Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1751 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.cymmrodorion.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Poster gan The Cymmrodorion Society, yn argymell sefydlu Amgueddfa Genedlaethol Cymru; Mehefin 1876.

Cyhoeddiadau golygu

Cyhoeddwyd y cylchgrawn ysgolheigaidd Y Cymmrodor o 1877 hyd 1951 a'r Cymmrodorion Record Series o 1889 ymlaen. Y Cymmrodorion hefyd yw cyhoeddwyr Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (1953) a'r fersiwn ar-lein. Mae Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion yn dal i gael ei gyhoeddi heddiw ac yn ffynhonnell bwysig ar gyfer ymchwil i lên, hanes a diwylliant Cymru.

Darlithoedd golygu

Mae’r gymdeithas yn trefnu cyfres o ddarlithoedd ble y cyflwynir papurau yn y Saesneg a’r Gymraeg gan siaradwyr o’r byd academaidd a chyhoeddus.

Cynhelir ein cyfarfodydd yn Llundain a Chymru, mewn lleoliadau sy’n cynnwys y Senedd ym Mae Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Cynhelir darlith arbennig yn y Gymraeg sef Darlith Goffa Syr T. H. Parry-Williams yn flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae’r Gymdeithas hefyd yn cynnal llawer o ddigwyddiadau mewn cydweithrediad ag eraill, gan gynnwys y Sefydliad Materion Cymreig, Cymru yn Llundain a Chymdeithas Sir Drefaldwyn. Fel arfer, cynhelir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas ym mis Mai bob blwyddyn. Cyhoeddir y darlithoedd, ynghyd ag unrhyw gyfraniadau eraill, yn y Trafodion blynyddol.

Swyddogion golygu

  • Llywydd: Yr Athro Prys Morgan ers 2005
  • Noddwr: Y Tywysog Siarl
  • Ysgrifennydd: Peter Jeffreys
  • Trysorydd: Huw Wynne-Griffith
  • Ysgrifennydd Aelodaeth: Dr Adrian Morgan
  • Golygydd: Yr Athro Helen Fulton, ers 2008

Llyfryddiaeth golygu

  • R. T. Jenkins a Helen Ramage, A History of the Honourable Society of the Gwyneddigion and Cymmrodorion Societies, 1751-1951 (Llundain, 1951)

Gweler hefyd golygu

Dolen allanol golygu