Y Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau mewn Perygl

Cytundeb rhyngwladol i amddiffyn planhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl rhag bygythiadau masnach ryngwladol yw'r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau mewn Perygl (Saesneg: Convention on International Trade in Endangered Species of Wild Fauna and Flora; byrfodd: CITES). Fe'i lluniwyd o ganlyniad i benderfyniad a fabwysiadwyd ym 1963 mewn cyfarfod o aelodau'r Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur. Agorwyd y cytundeb i’w lofnodi ym 1973 a daeth i rym ar 1 Gorffennaf 1975. Erbyn Rhagfyr 2024 roedd 184 o wledydd wedi arwyddo'r cytundeb.[1]

Y Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau mewn Perygl
Enghraifft o'r canlynolsefydliad, cytundeb amlochrog Edit this on Wikidata
Dyddiad3 Mawrth 1973 Edit this on Wikidata
IaithSaesneg, Ffrangeg, Sbaeneg Edit this on Wikidata
LleoliadWashington Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAtodiad I CITES, Atodiad II CITES, Atodiad III CITES Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://cites.org/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Nod y cytundeb yw rheoli'r fasnach ryngwladol mewn rhywogaethau o blanhigion ac anifeiliaid sydd mewn perygl o fynd i'w colli. Cyflawnir hyn drwy system o drwyddedau a thystysgrifau. Mae CITES yn rhoi lefelau amrywiol o amddiffyniad i fwy na 40,900 o rywogaethau.[2]

Mae rhestr CITES yn cynnwys ystod eang o eitemau – nid yn unig y planhigyn neu'r anifail cyfan (boed yn fyw neu'n farw), ond hefyd cynhyrchion sy'n deillio ohonynt.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "List of Contracting Parties", Gwefan CITES; adalwyd 11 Rhagfyr 2024
  2. "The CITES species", Gwefan CITES; adalwyd 11 Rhagfyr 2024

Dolenni allanol

golygu