Y Cymmrodor
Cylchgrawn blynyddol yr Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, rhwng 1821 a 1951, oedd Y Cymmrodor. Ynddo ceir traethodau, erthyglau a darlithoedd ar hanes, llenyddiaeth a Chymru.
Cyhoeddwyd y cylchgrawn cyntaf ym 1821 (heb rif), ac wedyn pedair cyfrol rhwng 1822 (Rhan I) a 1843 (Rhan IV). Daeth y rhediad hwn i ben ym 1843.
Ailddechreuwyd Y Cymmrodor yn 1877 (Cyfrol I), a pharhaodd tan 1939 (Cyfrol XLVI). O hyn ymlaen daeth yn fwy o adnodd llawn cyfeiriadau a deunydd ymchwil tan iddo ddod i ben ym 1951 (Cyfrol L) a chyhoeddwyd y gwaith wedi hynny yn Nhrafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.
Yn 2016 digideiddiwyd y casgliad gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru o dan y cynllun Cylchgronau Cymru Ar-lein
Golygyddion
golygu- Robert Jones (Y Cymmrodor, cyfrolau 1 – 2)
- Thomas Powell (Y Cymmrodor, cyfrolau 3 – 7)
- Egerton Phillimore (Y Cymmrodor cyfrolau 8 – 11)
- E. Vincent Evans (Y Cymmrodor, cyfrolau 13 – 22)
Cyfeiriadau
golygu- Cylchgronau Cymru Ar-lein http://cylchgronaucymru.llgc.org.uk
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru https://www.llgc.org.uk/cy/?no_cache=1
- Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion http://www.cymmrodorion.org/cy/