Y Dywysoges a'r Bysen
Stori fer i blant gan Hans Christian Andersen yw Y Dywysoges a'r Bysen (Daneg: "Prinsessen på Ærten").[1] Fe'i gyhoeddwyd yn gyntaf ar 8 Mai 1835 yn Copenhagen gan C. A. Reitzel.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Hans Christian Andersen |
Iaith | Daneg |
Dyddiad cyhoeddi | 8 Mai 1835 |
Genre | tale, literary fairy tale |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Andersen, yn fwy na thebyg, wedi clywed y stori pan oedd yn blentyn.[2] Nid oedd y stori wedi'i chofnodi cyn hynny, felly mae'n perthyn i'r diwylliant llafar o drosglwyddo gwybodaeth o riant i blentyn.
Wedi cyhoeddi'r Dywysoges a'r Bysen, derbyniodd feirniadaeth negyddol iawn gan y darllenwyr Daneg, oherwydd eu bod wedi'u hysgrifennu mewn arddull rydd, tebyg i sgwrs, ac nad oedd y foeswers yn ddigon cryf.[3]
Addaswyd y stori yn 1959 ar gyfer drama gerdd ac a oedd yn serennu Carol Burnett. Cafodd addasiad Cymraeg ei berfformio yn 2018 gan Theatr y Sherman.[4]
Crynodeb
golyguRoedd y tywysog eisiau canfod tywysoges i'w phriodi. Ond nid oedd pob tywysoges yn dywysoges go iawn. Un noson, pan arhosodd dynes yn y palas i gael lloches rhag storm, teimlodd bysen trwy ugain matres ac ugain cwilt. Yn ôl y stori dim ond tywysogesau go wir allai wneud hyn, felly priododd y tywysog hi.
Dolenni allanol
golygu- Fersiwn Gymraeg gan Marta Weingartner Diaz
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Arkiv for Dansk Litteratur - Hans Christian Andersen - Prindsessen paa Ærten". web.archive.org. 2008-05-18. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-18. Cyrchwyd 2019-01-27.
- ↑ 1805-1875., Andersen, H. C. (Hans Christian), (2008). The annotated Hans Christian Andersen. Tatar, Maria, 1945- (arg. 1st ed). New York: W.W. Norton. ISBN 9780393060812. OCLC 164570520.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: numeric names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
- ↑ Wullschlager (2000), pp. 159–160none
- ↑ "Y Dywysoges A'r Bysen Fechan Fach : Theatr y Sherman". web.archive.org. 2019-01-28. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-01-28. Cyrchwyd 2019-01-29.