Y Faenol Fawr
gwesty mewn plasty gwledig rhestredig Gradd II* ym Modelwyddan
Codwyd Y Faenol Fawr, Bodelwyddan, Sir Ddinbych, yn 1597 gan John Lloyd, cofrestrydd Llanelwy. Roedd gan Thomas Myddelton hefyd gysylltiad a'r lle. Un o nodweddion mwyaf trawiadol y plasty yw'r talcennau ar ffurf grisiau. Heddiw, mae'r mynediad a'r cyntedd gerllaw'r parlwr, ond mae'n annhebyg iawn mai dyma oedd yn wreiddiol. Mae darlun gan yr arlunydd Moses Griffith tua'r flwyddyn 1770 yn dangos y mynediad yng nghanol yr adeilad.
Math | gwesty mewn plasty gwledig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Bodelwyddan |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 6.6 metr |
Cyfesurynnau | 53.2751°N 3.49975°W |
Cod OS | SJ000763 |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae'r hen blasdy yn westy heddiw.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan Gwesty'r Faenol Fawr Archifwyd 2009-02-05 yn y Peiriant Wayback