Moses Griffith
Arlunydd o Gymru oedd Moses Griffith (25 Mawrth 1747 - 11 Tachwedd 1819).[1][2] Ganed ef ym mhentref Trygarn, gerllaw Bryncroes ym Mhen Llŷn. Cafodd ychydig o addysg yn ysgol rad Botwnnog. Yn 1769, yn 22 oed, cyflogwyd ef fel gwas gan Thomas Pennant. Cyn hir sylweddolodd Pennant fod ganddo dalent fel arlunydd, ac aeth Pennant a Griffith gydag ef ar ei deithiau, er mwyn iddo fedru paratoi lluniau ar gyfer ei lyfrau. Ei waith ef yw'r ysgythriadau mewn cyfrolau megis Tours in Wales.[3] Wedi i Thomas Pennant farw 1798 bu Moses Griffith yn gweithio i'w fab, David Pennant. Mae cryn nifer o luniau dyfrlliw o'i waith ar gael, er enghraifft yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn yr Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain.
Moses Griffith | |
---|---|
Paentiad gan Moses Griffith a gyhoeddwyd yn A tour in Wales gan Thomas Pennant (1726-1798) | |
Ganwyd | 25 Mawrth 1747 Bryncroes |
Bu farw | 11 Tachwedd 1819 Downing |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arlunydd, engrafwr |
Cyflogwr |
Bu farw ar 11 Tachwedd 1819 a chladdwyd ef ym mynwent Capel Chwitffordd, Sir Fflint.[4] Lleolir ei fedd wrth wal ffin gogleddol y fynwent ac mae plac diweddar yno.[5]
Dolenni allanol
golygu- Llun dyfrlliw Archifwyd 2007-10-10 yn y Peiriant Wayback o Abaty Dinas Basing gan Moses Griffith, o "Casglu'r Tlysau".
- Llun dyfrlliw Archifwyd 2007-10-08 yn y Peiriant Wayback o Gastell Rhuddlan gan Moses Griffith, o "Casglu'r Tlysau".
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Thomas Pennant Journey to Snowdon. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ Griffith, Moses, 1747-1819: Artist and Illustrator in the Service of Thomas Pennant.
- ↑ 'Capel Curig' gan Moses Griffiths, 1806 (dyfrlliw). Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth: Casglu'r Tlysau.
- ↑ Cerdded Cymru - the Welsh Walks Guide. Cymdeithas y Cerddwyr yng Nghymru / Ramblers Association Wales.
- ↑ Church of St Mary and St Beuno, Whitford. Flintshire Churches Survey.