Y Farteg

cymuned ym mwrdeisdref sirol Torfaen yn ne-ddwyrain Cymru

Pentref bychan ym mwrdeistref sirol Torfaen, Cymru, yw'r Farteg (Seisnigiad: Varteg). Fe'i lleolir tua 4.5 milltir i'r gogledd o dref Pont-y-pŵl ar y ffordd B4246. Mae'n rhan o gymuned Abersychan ac yn gorwedd rhwng y pentref honno a Blaenafon, i'r gogledd.

Y Farteg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAbersychan Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7479°N 3.0661°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auLynne Neagle (Llafur)
AS/auNick Thomas-Symonds (Llafur)
Map

Mae gan y Farteg un o'r ddwy ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sydd yn Nhorfaen, sef Ysgol Bryn Onnen. (Ysgol Gymraeg Cwmbrân yw'r llall.) Mae ganddo hefyd gladdfa sy'n dyddio'n ôl i'r 18g.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lynne Neagle (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Nick Thomas-Symonds (Llafur).[2]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Fwrdeistref Sirol Torfaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato