Llanfihangel Llantarnam
Pentref, plwyf a chymuned ym mwrdeistref sirol Torfaen, Cymru, yw Llanfihangel Llantarnam, weithiau Llantarnam. Hi yw'r gymuned fwyaf deheuol yn Nhorfaen, ac mae wedi datblygu yn un o faesdrefi Cwmbrân. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 3,299; cynyddodd i 4,125 erbyn 2011. Mae Camlas Sir Fynwy yn rhedeg trwy'r gymuned. Bu yma eglwys ar un cyfnod a gysegrwyd i sant Derfel Gadarn.[1]
Tafarn yn LLanfihangel Llantarnam | |
Math | maestref, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 4,125, 4,975 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Torfaen |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 656.1 ha |
Cyfesurynnau | 51.636°N 3.006°W |
Cod SYG | W04000765 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Lynne Neagle (Llafur) |
AS/au y DU | Nick Thomas-Symonds (Llafur) |
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lynne Neagle (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Nick Thomas-Symonds (Llafur).[3]
Abaty Llantarnam
golygu- Prif: Abaty Llantarnam
Sefydlwyd abaty Sistersaidd Llantarnam yma yn 1179 gan fynachod o Ystrad Fflur dan nawdd Hywel ap Iorwerth, arglwydd Caerllion. Efallai mai yng Nghaerllion y sefydlwyd y fynachlog gyntaf, ond cofnodir ei bod yn Llantarnam erbyn y 13g. Roedd yr abad John ap Hywel yn un o brif gefnogwyr Owain Glyn Dŵr; lladdwyd ef ym Mrwydr Pwllmelyn yn 1405. Yn ddiweddarach, trowyd yr abaty yn blasdy, ac mae'n awr yn gartref i Chwiorydd Sant Joseff. Ceir Croes Llanfihangel Llantarnam yma.
Pobl o Lantarnam
golygu- Percy Enderbie (1601-1670), hanesydd o Sais a ymsefydlodd yn y plwyf
Cyfrifiad 2011
golyguYng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ llgc.org.uk; Welsh Classical Dictionary; adalwyd 6 Ebrill 2017.
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
- ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
- ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]
Trefi
Abersychan · Blaenafon · Cwmbrân · Pont-y-pŵl
Pentrefi
Castell-y-bwch · Coed Efa · Cwmafon · Y Farteg · Garndiffaith · Griffithstown · Llanfihangel Llantarnam · Llanfrechfa · New Inn · Pant-teg · Pen Transh · Pont-hir · Pontnewynydd · Sebastopol · Tal-y-waun · Trefddyn