Bwrdeistref sirol

Enw ar ffurf o ardal awdurdod lleol ym Mhrydain yw bwrdeistref sirol. Erbyn heddiw, dim ond yng Nghymru maent yn bodoli.

Wrth greu cynghorau sir ym 1889, dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888, crëwyd hefyd y fwrdeistrefi sirol ar gyfer y dinasoedd mawr oedd eisoes gyda chorfforaeth i redeg prif swyddogaethau awdurdod lleol.

Effaith statws bwrdeistref sirol oedd bod yr awdurdod hwnnw â'r swyddogaeth o redeg rhai o brif wasanaethau llywodraeth leol, megis addysg, a fuasai fel arall yn gyfrifoldeb i'r cyngor sir. Roedd bwrdeistrefi a dosbarthau eraill o fewn y sir yn bod, ond heb gynnal yr un swyddogaethau.

Dros gyfnodau o ad-drefnu llywodraeth leol ym Mhrydain, daeth ffurfiau eraill o awdurdod aml-bwrpas i fod, a gyda Deddf Llywodraeth Leol 1972 diddymwyd y ffurf 'bwrdeistref sirol' yn gyfangwbl ym Mhrydain.

Adferiad yng Nghymru

golygu

Ym 1996, dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, fe ail-drefnwyd awdurdodau lleol Cymru ar ffurf awdurdodau unedol, gan adfer y fwrdeistref sirol. Dan y ddeddf, roedd pob ardal llywodraeth leol un ai yn sir neu yn fwrdeistref sirol, gyda'r Cyngor felly yn Gyngor Sir neu yn Gyngor Bwrdeistref Sirol. Nid oes gwahaniaeth o gwbl yn swyddogaethau'r cynghorau hyn. Yr unig wahaniaeth ymarferol yw bod cadeirydd bwrdeistref sirol yn defnyddio'r teitl 'Maer'.

I bob pwrpas mae'r teitl 'bwrdeistref sirol' yn cael ei anwybyddu ar lafar ac yn wir yn y cyfryngau yn gyffredinol, yn cynnwys BBC Cymru, ac mae'n arferol cyfeirio atynt fel 'siroedd' yn unig, e.e. 'Sir Conwy' yn lle Bwrdeistref Sirol Conwy ac 'yn y sir' yn lle 'yn y fwrdeistref sirol'.

Rhestr Bwrdeistrefi Sirol Cymru

golygu

Mae gweddill prif gynghorau lleol Cymru yn gynghorau sir heblaw Gwynedd - a fodolodd am rai munudau yn unig fel 'Sir Gaernarfon a Meirionnydd', yn unol â geiriad Deddf 1994, cyn i gyfarfod cyntaf y cyngor newydd newid yr enw i 'Gwynedd' - nad yw yn sir nag yn fwrdeistref sirol yn ôl y cyngor ei hun ond sy'n cyfrif fel un o siroedd Cymru er hynny.

Gweler hefyd

golygu