Medal Rhyddid yr Arlywydd
(Ailgyfeiriad o Y Fedal Ryddid Arlywyddol)
Medal a gyflwynir gan Arlywydd yr Unol Daleithiau yw Medal Rhyddid yr Arlywydd (Saesneg: Presidential Medal of Freedom). Yr anrhydedd hon a Medal Aur y Gyngres yw'r ddau addurniad uchaf a wobrwyir i sifiliaid yn Unol Daleithiau America. Ni chyfyngir y fedal i ddinasyddion Americanaidd yn unig, ac mae hawl hefyd i aelodau'r lluoedd arfog ei derbyn er nad yw'n wobr filwrol. Sefydlwyd y wobr ym 1963 gan yr Arlywydd John F. Kennedy i gymryd lle'r Fedal Rhyddid a sefydlwyd gan Harry S. Truman ym 1945 i gydnabod gwasanaeth gan sifiliaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Enghraifft o'r canlynol | civil decoration |
---|---|
Math | medal |
Dechrau/Sefydlu | 1963 |
Sylfaenydd | John F. Kennedy |
Rhagflaenydd | Medal of Freedom |
Enw brodorol | Presidential Medal of Freedom |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |