Darn o fetel ac arno ysgrifen neu arwyddlun i anrhydeddu neu wobrwyo person neu i nodi achlysur yw medal.[1][2] Caiff ei bwrw mewn siâp darn arian, gan amlaf, er na chaiff ei chylchredeg. Dygir basgerfiadau ac arysgrifau ar wyneb blaen a thu ôl y fedal.

Gwneir medalau coffa er nodi neu ddathlu digwyddiad arbennig neu er cof am unigolyn o fri. Cyflwynir medalau milwrol, ar ffurf disgen, croes, neu seren, i gydnabod dewrder ym maes y gad, am gymryd rhan mewn ymgyrch benodol neu am gyflawni cyfnod o wasanaeth milwrol. Rhoddir medalau hefyd gan y wladwriaeth neu gan urdd neu gymdeithas sifil er anrhydedd yn y gwyddorau neu'r celfyddydau. Gwisgir medalau crefyddol gan rai credinwyr, megis Catholigion, sydd yn credu iddynt dderbyn bendith Duw.

 
Medal efydd gan Pisanello sydd yn dangos pen y condottiere Niccolò Piccinino ar ei hochr flaen (tua 1441).

Creasid medalau celfydd ers cyfnod Groeg yr Henfyd. Nodir medalau'r Rhufeiniaid am bortreadau realistig. Daeth medalau yn ffasiynol yn ystod y Dadeni Dysg, yn enwedig drwy waith cywrain yr arlunydd Eidalaidd Pisanello. Roedd nifer o gerflunwyr a phaentwyr y Dadeni hefyd yn wneuthurwyr medalau, gan gynnwys Filippo Lippi, Benvenuto Cellini, ac Albrecht Dürer. Deigastio oedd y ffordd fwyaf cyffredin o wneud medalau yn y 15g, ond erbyn yr 16g cafodd y mwyafrif ohonynt eu bwrw mewn mowld. Yn y 19g, Ffrainc oedd y brif wlad am gynhyrchu medalau o werth celfyddydol.

Cyfeiriadau

golygu
  1.  medal. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 10 Ionawr 2017.
  2. (Saesneg) medal (civilian and military award). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 10 Ionawr 2017.
  Eginyn erthygl sydd uchod am urdd, anrhydedd neu fedal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.