Cyfnodolyn llenyddol Gymraeg ei iaith oedd Y Fflam a gyhoeddwyd o 1946 hyd 1952 i gynnig llwyfan i lenorion Cymraeg ifainc. Roedd yn cynnwys barddoniaeth, darluniau a gwaith celf, ffuglen ac adolygiadau. Roedd yn wleidyddol ac yn gryf o blaid cenedlaetholdeb Cymreig radical.

Euros Bowen, Pennar Davies a J. Gwyn Griffiths oedd golygyddion y cylchgrawn, ac roedd y cyfranwyr rheolaidd yn cynnwys D. Tecwyn Lloyd, Gareth Alban Davies, Bobi Jones, ac R. S. Thomas.

Sefydlwyd Gwasg Y Fflam, Y Bala i gyhoeddi Y Fflam.

Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido fel rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.