Y Ford Gron (cylchgrawn)
Roedd Y Ford Gron: papur Cymry'r byd yn gylchgrawn misol poblogaidd Cymraeg, yn cynnwys newyddion ac erthyglau ar deithio, ffasiwn, y celfyddydau a materion cyfoes. Roedd yn cynnwys darluniau, llythyron, traethawdau golygyddol a hysbysebion.
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn, cylchgrawn |
---|---|
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | Tachwedd 1930 |
Dechrau/Sefydlu | 1930 |
Lleoliad cyhoeddi | Wrecsam |
Cyhoeddwyd y cylchgrawn rhwng 1931 a 1935 gan Hughes a'i Fab, cyhoeddwyr llyfrau Cymraeg, cerddoriaeth, a chyfnodolion. Printiwyd deunaw mil o'r rhifyn gyntaf (chwe cheiniog hen oedd y pris) ac o dipyn i beth fe setlodd y cylchrediad ar dipyn dros 13,000.[1]
Mae'r cylchgrawn wedi ei ddigido fel rhan o brosiect Cylchgronau Cymru Ar-lein gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cyfeiriadau
golygudolen allanol
golygu- Y Ford Gron ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein