Y Genhedlaeth Goll

Cerdd Gymraeg gan Alan Llwyd yw "Y Genhedlaeth Goll". Mae Alan Llwyd yn myfyrio ar dristwch y Rhyfel Byd Cyntaf yn y gerdd wrth iddo edrych drwy hen bapurau newydd sy'n cynnwys lluniau a gwybodaeth am y milwyr diniwed. Gwelir themau o ryfel, brawdgarwch a heddwch drwy gydol y gerdd.

Alan Llwyd golygu

Pryderon am anghofio y milwyr hyn a frwydrodd dros Gymru sydd yn lliwio cerdd Alan Llwyd.

Mae Y Genhedlaeth Goll yn canolbwyntio ar y genhedlaeth o ddynion a laddwyd yn y rhyfel ac y ffaith fod ein cenhedlaeth ni heddiw ond yn eu defnyddio am ein gwaith ymchwil. Mae'r bardd yn mynd ati i leoli'r gerdd o'n blaenau. Er enghraifft, mae'r bardd yn defnyddio'r geiriau 'yma' a 'fan hyn' i bwysleisio'r ffaith nad peth pell, o ran amser ydyw. Mae Alan Llwyd yn fardd ac arbenigwr ar hanes y Rhyfel Byd Cyntaf a dylanwad y rhyfel Mawr ar lenyddiaeth Gymraeg. Hefyd ef oedd awdur y sgript Hedd Wyn (ffilm)

Iaith ac arddull golygu

Cerdd benrhydd yw hi, mae ganddi linellau hir ym mhob pennill sy'n gwneud iddi edrych fel colofn papur newydd. Gall y ffaith nad oes odl yn y gerdd gyfleu'r tristwch sydd yn cael ei bortreadu a mae'r iaith yn eithaf syml a llafar.