Hedd Wyn (ffilm)
Ffilm Gymraeg am fywyd y bardd Hedd Wyn yw Hedd Wyn. Cafodd ei henwebu am Oscar ym 1994. Huw Garmon sy'n serennu fel Hedd Wyn. Cynhyrchwyd y ffilm yng Nghymru gan gwmni Pendefig Cyf dan ofal y cyfarwyddwr Paul Turner.
Teitl amgen | Hedd Wyn – The Armageddon Poet |
---|---|
Cyfarwyddwr | Paul Turner |
Cynhyrchydd | Shân Davies |
Ysgrifennwr | Alan Llwyd Paul Turner |
Cerddoriaeth | John E. R. Hardy |
Sinematograffeg | Ray Orton |
Sain | Julie Ankerson |
Dylunio | Jane Roberts Martin Morley |
Cwmni cynhyrchu | Pendefig Cyf. |
Amser rhedeg | 123 munud |
Sgriptiwyd y ffilm gan y bardd Alan Llwyd, awdur y gyfrol Gwae fi fy myw, cofiant Hedd Wyn. Cafodd llawer o'r golygfeydd eu saethu ar leoliad yn ardal Trawsfynydd, de Gwynedd, pentref genedigol Hedd Wyn. Mae'r gyferbyniaeth rhwng y golygfeydd swynol o gefn gwlad bugeiliol Meirion a'r golygfeydd cignoeth o erchylltra'r ymladd yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf, lle lladdwyd Hedd Wyn, yn un o gryfderau'r ffilm.
Rhyddhawyd y ffilm ar DVD yn 2005 mewn casgliad o ffilmiau gan S4C ac mae ar gael i'w wylio ar lein am ddim.
Cynnwys
golyguGellir rhannu'r ffilm i dair rhan:-
- Seremoni'r Cadeirio (sy'n para tua munud)
- 4 blynedd sy'n arwain hyd at y rhyfel (felly perthynas Lizzie, cwrdd â Mary Katherine, marwolaeth Gruff Penlan ayyb.)
- 3 awr o orwedd ar faes y rhyfel.
Mae gan Hedd Wyn nod, sef ennill y gadair yn yr eisteddfod. Ond mae yna rwystrau'n ei wynebu: merched (Lizzie, Mary Katherine a Jini); diffyg llonydd (am ei fod yn un o naw o blant); am nad oes addysg ganddo; a hefyd y rhyfel. Bu farw Elis tua bythefnos cyn yr eisteddfod felly nid oedd yn gwybod ei fod wedi ennill y gadair. Gellir gwadu ei fod wedi cyrraedd ei nod am ei fod wedi ennill y gadair a'i fod wedi cyrraedd ei gartref yn Nhrawsfynydd, ond ar y llaw arall ni eisteddodd yn y gadair felly a llwyddodd i gyrraedd ei nod?
Cast a chriw
golyguPrif gast
golygu- Huw Garmon (Ellis Evans / Hedd Wyn)
- Sue Roderick(Lizzie Roberts)
- Judith Humphreys (Jini Owen)
- Nia Dryhurst (Mary Catherine Hughes)
Cast cefnogol
golygu- Gwen Ellis – Mary Evans (Y Fam)
- Grey Evans – Evan Evans (Y Tad)
- Llio Silyn – Mary Evans
- Catrin Fychan – Magi Evans
- Emlyn Gomer – Morris Davies (Moi)
- Arwel Gruffydd – Williams Morris
- Gwyn Vaughan – Owen Hughes
- Phil Reid – Fred Hainge
- Ceri Cunnington – Bob Evans
- Emma Kelly – Enid Evans
- Sioned Jones Williams – Cati Evans
- Llyr Joshua – Ifan Evans
- Angharad Roberts – Ann Evans
- Geraint Roberts – R. Williams Parry
- Guto Roberts – Arweinydd Eisteddfod Pwllheli
- Manon Prysor – Merch y Drycinoedd - Yr Awen
- Derec Brown – Y Parchedig J. D. Richards
- Lydia Griffiths – Organyddes
- J. O. Jones – Ficar Recriwtio
- Richard Viner – Dihangwr
- Mark Rowlands – Milwr o Sais
- Llion Jones – Y Canwr yn y Dafarn
- Siân Summers – Gwen Williams
- Tony Jones – milwr heb lygad
- Ieuan Wyn Roberts – milwr heb freichiau
- Brendan Charleston – Elor-glodydd
- Doc O'Brien – Mr Kirby–Y Swyddfa Ryfel
- Noel Williams – Cadeirydd y Tribiwnlys
- Eric Wyn – Ficar y Tribiwnlys
- Richard Beale – Y Cynrychiolydd Milwrol
- Roger McKern – Rhingyll Ymddullio
- Kim Goddard – Swyddog Meddygol–Litherland
- Dylan Jones Roberts – Bob Morris
- Dafydd Edmwnd – Rhingyll Hyfforddi
- Ray Davies – Swyddog Meddygol–Maes y Gad
- Jack James – Swyddog Sensro
- Terry Victor – Major
- Dafydd Rowlands – Llais yr Archdderwydd Dyfed
Effeithiau arbennig
golygu- Evan Green-Hughes, Steve Breheney, David Williams
Cydnabyddiaethau eraill
golygu- Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyntaf – Michas Koc
- Ail Gyfarwyddwr Cynorthwyol – Stephen Woolfenden
- Trydydd Cyfarwyddwr Cynorthwyol – Geoff Skelding
- Rhedwr – Meleri Mair Jones
- Rhedwr – Hywel Williams
- 'Cyfle' – dan hyfforddiant – Tony Williams
- 'Cyfle' – dan hyffordiant – Carole Griffiths
- Dilyniant – Gillian Elen
- Ffocws – Richard Wyn Hughes
- Llwythwr – Alwyn Hughes
- Camera – Yr Ail Uned – Roger Pugh Evans
- Grip – David Hopkins
- Giaffar – Alan Chadwick
- Trydanwyr – Chris Hill, Ken Toms, Cliff Owen, Gwion Hughes
- Propiau wrth Law – Phil Rawsthorne
- Prynwr Propiau – Rosalie Kenworthy-Neale
- Cynorthwywyr Adran Celf – Donna Williams, Lesley Dearne
- Cynllunwraig Coluro – Barbara Southcott
- Cynorthwy-ydd i'r Cynhyrchiad – Siân Thomas
- Cymysgwr Sain – Jeff Matthews
- Bwm – Tim Partridge, Jeremy Thatcher
- Artistiaid 'Foley' – Julie Ankerson, John Fewell
- Cynllunwraig Gwisgoedd – Celia Pye
- Cynllunwraig Gwisgoedd Gynorthwyol – Ffion Elinor
Manylion Technegol
golyguTystysgrif Ffilm: Untitled Certificate
Fformat Saethu: 35mm
Lliw: Lliw
Gwlad: Cymru / DU
Iaith Wreiddiol: Cymraeg / Saesneg
Lleoliadau Saethu: Trawsfynydd a'r cyffiniau gan gynnwys Capel Penstryt. Ffilmiwyd y golygfeydd o faes y gad ar faes glanio yn Hwlffordd.
Gwobrau
golyguGŵyl ffilmiau | Blwyddyn | Gwobr / enwebiad | Derbynnydd |
---|---|---|---|
Academi Americanaidd Celfyddydau a Gwyddorau Lluniau Symudol (yr Oscars) | 1993 | Enwebiad am Ffilm Orau mewn iaith Dramor | |
Gwyl Ffilmiau Efrog Newydd | 1993 | Medal Efydd | |
Gŵyl Ffilm Ryngwladol Fflandrys, Ghent | 1994 | Gwobr y Gynghrair Ddiwylliannol | |
Houston Worldfest, UDA | 1994 | Gwobr Aur y Panel Arbennig | |
BAFTA Cymru | 1994 | Y Ddrama Orau yn yr Iaith Gymraeg | |
Cyfarwyddwr Gorau | |||
Yr Awdur Gorau | |||
Y Golygydd Gorau | |||
Y Gerddoriaeth Orau | |||
Y Cynllunio Gorau | |||
Gwyl Ffilmiau Celtaidd | 1994 | Gwobr Ysbryd yr Ŵyl | |
Y Gymdeithas Deledu Frenhinol | 1994 | Y Ddrama Unigol Orau | |
FIPA d'Or, Cannes | 1994 | Yr Actor Gorau | Huw Garmon |
Gwobrau Celfyddydau y Liverpool Echo and Daily Post | 1994 | Y Cynhyrchiad Gorau yn yr Iaith Gymraeg | |
Gŵyl Ffilmiau Efrog Newydd | 1994 | Medal Efydd | |
Cynghrair Rhyngwladol Gwyliau Ffilm, Portiwgal | 1994 | Gwobr Arbennig | |
XXXCI Settimana Cinematografica Internazionale Cinema Inglese Contemporaneo, Verona | 1995 | Gwobr Stefano Reginni |
Manylion Atodol
golyguLlyfrau
golygu- ap Dyfrig, R., Jones, E. H. G., Jones, G. The Welsh Language in the Media Archifwyd 2011-06-11 yn y Peiriant Wayback (Aberystwyth: Mercator Media, Mercator Media Monographs, 2006)
- David Berry, Wales and Cinema: the first hundred years (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994)
- Dave Berry, 'Unearthing the Present: Television Drama in Wales', yn Steve Blandford (gol.), Wales on Screen (Penybont: Seren, 2000), tt. 128-151.
Adolygiadau
golygu- (Saesneg) "NF". [Adolygiad o Hedd Wyn]. Time Out.
- Sight and Sound, cyfrol 4, rhif 7, Gorffennaf 1994.
- Screen International, rhif 950, 25 Mawrth 1994.
- Variety, 5 Hydref 1992.
- (Saesneg) Grunes, Dennis (20 Mawrth 2007). HEDD WYN (Paul Turner, 1992). Adalwyd ar 29 Awst 2014.
Erthyglau
golygu- Martin McLoone, ‘Challenging Colonial Traditions: British Cinema in the Celtic Fringe’ yn Cineaste, Medi 2001.
- Television Today, rhif 5895, 7 Ebrill 1994.
- Mihangel Morgan, ‘Golwg ar y sgript Hedd Wyn’, yn Huw Meirion Edwards, Alan: casgliad o ysgrifau ar Alan Llwyd, tt. 176–183.
- Alan Llwyd, ‘O’r Ysgwrn Fach i'r Sgrin Fawr’ Sgript 0 (1994/95) tt. 35–45.
- Steve Blandford, ‘Wales at the Oscars’, Cyfrwng: cyfnodolyn cyfryngau Cymru, 2 (2005), tt. 101–113.