Y Greal (1807)
Cylchgrawn Cymraeg a gyhoeddwyd yn 1807 oedd Y Greal. Chwarterolyn am lenyddiaeth, hanes a thraddodiadau Cymru ydoedd. Dim ond naw rhifyn a ddaeth allan ond cafodd gryn ddylanwad yng Nghymru.
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
- Erthyl am y cylchgrawn Greal cyntaf yw hon: gweler hefyd Greal. Am y llestr santaidd yn y traddodiad Cristnogol gweler Y Greal Santaidd.
Ymhlith yr erthyglau a gyhoeddwyd bu rhai o lythyrau'r bardd Goronwy Owen a hwbiodd ei statws fel llenor o statws "cwlt", Breuddwyd Macsen Wledig (am y tro cyntaf mewn print), hunangofiant y dramodydd Twm o'r Nant, a hanes Madog ab Owain Gwynedd yn teithio i'r Amerig.
Golygydd y cylchgrawn oedd William Owen Pughe, ar ran y Gwyneddigion.