Goronwy Owen
Roedd Goronwy Owen (1 Ionawr 1723 - Gorffennaf 1769) yn un o feirdd Cymraeg amlyca'r 18g.
Goronwy Owen | |
---|---|
Ganwyd | 1 Ionawr 1723 (yn y Calendr Iwliaidd) Llanfair Mathafarn Eithaf |
Bu farw | Gorffennaf 1769 Brunswick County |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Cyflogwr |
Ei fywyd
golyguCafodd ei eni ar Ddydd Calan 1723 ym mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf yng ngogledd-ddwyrain Môn. Cafodd ei addysg ffurfiol yn Ysgol Friars, Bangor a Choleg Yr Iesu, Rhydychen er na arhosodd yn y coleg yn hir. Dysgodd lawer am farddoniaeth gan Lewis Morris. Yn Ionawr 1746 fe'i ordeiniwyd yn weinidog. Yn ddyn ifanc gadawodd Ynys Môn am y tro olaf, a chrwydro i Sir Ddinbych, Croesoswallt, Donnington ac Uppington ger Amwythig, Walton ger Lerpwl, a Northol yn Llundain. Ym mis Tachwedd 1757, hwyliodd gyda'i deulu ifanc i gymryd swydd yng Ngholeg William a Mary yn Brunswick County, Virginia, Unol Daleithiau America. . Bu farw yno ym mis Gorffennaf 1769 heb ddychwelyd yn ôl i Gymru unwaith.
Yn ôl traddodiad ei ddisgynyddion fe'i claddwyd ger buarth ei gartref yn yr Old Trotter Plantation 6 milltir i'r gogledd ddwyrain o Lawrenceville, Brunswick County, Virginia mae 'na llechan yno i nodi'r lleoliad. Ym 1958 cododd Cymdeithas Beirdd Virginia a Chymru America cofgolofn iddo ym mynwent Eglwys San Andreas Lawrenceville[1]
Caethwasiaeth
golyguBu'n berchen ar o leiaf pedwar o gaethwaesion[2] ac mae ei ewyllys yn eu rhestru ymysg ei eiddo: ‘A negro named Peg Old (£12/10s); A negro wench named Young Peg (£40); A [negro] boy, Bob (£30); A [negro] boy, Stephen (£15); A Desk Black Walnut (£3/10s); Six Walnut chairs (£3/10s)...’[3]
Enwir Ysgol Goronwy Owen a Chlwb Pêl-Droed Bro Goronwy ar ei ôl.
Ei waith
golyguRoedd yn fardd, yn fwyaf enwog am ei gerddi am Ynys Môn, er ei fod wedi gadael y Sir am y tro olaf yn 23 oed.
Henffych well, Fôn, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir.
Goludog, ac ail Eden
Dy sut, neu Baradwys hen:
Gwiwddestl y'th gynysgaeddwyd,
Hoffter Duw Nêr a dyn wyd,
Marian wyd ym mysg moroedd,
A'r dŵr yn gan tŵr it oedd,
Eistedd ar orsedd eursail
Yr wyd, ac ni weli ail,
Ac euraid wyt bob goror,
Arglwyddes a mesitres môr.
I'th irhau cyfoeth y rhod
A 'mryson â'r môr isod.
Gwyrth y rhos trwodd y traidd,
Ynysig unbenesaidd.
Mae tystiolaeth ei lythyrau niferus at aelodau o gylch y Morrisiaid yn dangos ei fod yn ysgrifennwr rhyddiaith campus yn ogystal. Dyma ei ddisgrifiad o berson Walton, er enghraifft:
Climmach o ddyn afrosgo ydyw - garan anfaintunaidd - afluniaidd yn ei ddillad, o hyd a lled aruthr anhygoel, ac wynebpryd llew, neu ryw faint erchyllach, a'i ddrem arwguch yn tolcio (ymhen pob chwedl) yn ddigon er noddi llygod yn y dyblygon; ac yn cnoi dail yr India hyd oni red dwy ffrwd felyngoch hyd ei ên... Roedd yn swil genyf ddoe wrth fynd i'r Eglwys yn ein gynau duon, fy ngweled fy hun yn ei ymyl ef, fel bâd ar ol llong.[4]
Ymhlith y cwpledi sy'n dal i gael eu hadrodd heddiw mae:
Pwy a rif dywod llifon,
Pwy rydd i lawr wŷr mawr Môn?
a'r cwpled yn yr englyn canlynol:
Mae cystudd rhy brudd i’m bron – hyd f’wyneb
Rhed afonydd heilltion;
Collais Elin, liw hinon,
Fy ngeneth oleubleth, lon.
Llyfryddiaeth
golyguGwaith y bardd
golygu- Dewisol Ganiadau yr Oes Hon (1759). Tair cerdd.
- Diddanwch Teuluaidd (1763; arg. newydd, 1817). Bron y cwbl o'i gerddi.
- Corph y Gainc (1810). Pump cerdd na cheir yn y Diddanwch.
- John Jones (gol.), Gronoviana (John Jones, Llanrwst, 1860). Y cerddi i gyd a sawl llythyr.
- Parch. Robert Jones (gol.), Poetical Works of Goronwy Owen (1876). 2 gyfrol.
- Isaac Foulkes (gol.), Holl Waith Barddonol Goronwy Owen (Lerpwl, 1878).
- John Morris-Jones (gol) Llythyrau Goronwy Owen (Lerpwl 1895)
- Owen Morgan Edwards (gol.), Gwaith Goronwy Owen (Cyfres y Fil, Bala, 1902). 2 gyfrol
- W. J. Gruffydd (gol.), Cywyddau Goronwy Owen (1907).
- J. H. Davies (gol.), The Letters of Goronwy Owen (Caerdydd, 1924).
Bywgraffiad ac astudiaethau
golygu- W.D. Williams, Goronwy Owen (Cyfres ddwyieithog Gŵyl Dewi, Caerdydd, 1951)
- Bedwyr Lewis Jones, yn Gwŷr Môn, gol. Bedwyr Lewis Jones (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979)
- Branwen Jarvis, Goronwy Owen, cyfres Writers of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986)
- Alan Llwyd, Gronwy Ddiafael, Gronwy Ddu: Cofiant Goronwy Owen 1723-1769 (Cyhoeddiadau Barddas, 1997)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Find a grave-rhif 106676045
- ↑ "BBC - Cymru - Hanes - Themau - Cofio Goronwy Owen". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2020-06-23.
- ↑ "Caethwasanaeth a'r Beirdd".
- ↑ The Letters of Goronwy Owen, XX. At William Morris o Walton, 30 Ebrill, 1753. Dyfynnwyd gan Alan Llwyd yn Goronwy Ddiafael, Goronwy Ddu