Y Gwarchodlu Farangaidd

Mintai elît o'r Fyddin Fysantaidd oedd y Gwarchodlu Farangaidd (Groeg: Τάγμα τῶν Βαράγγων trawslythreniad: Tágma tōn Varángōn) a wasanaethodd yn warchodlu personol i ymerodron yr Ymerodraeth Fysantaidd o'r 10g i'r 14g. Câi'r llu ei recriwtio o Ogledd Ewrop, yn bennaf Llychlynwyr—a elwid Farangiaid yn Nwyrain Ewrop—ond hefyd rhai Eingl-Sacsoniaid o Loegr.

Darluniad o'r Gwarchodlu Farangaidd (ar hyd ben y llun) mewn llawysgrif goliwiedig o Gronicl Ioannes Skylitzes o'r 11g.

Daeth yr hurfilwyr Llychlynnaidd cyntaf i Gaergystennin i wasanaethu'r Ymerawdwr Mihangel III yng nghanol y 9g. Sefydlwyd y Gwarchodlu Farangaidd yn uned benodol, ar wahân yn 988, pan recriwtiodd yr Ymerawdwr Basileios II filwyr Llychlynnaidd o Vladimir I, Tywysog Novgorod ac Uchel Dywysog Kyiv. Un o'r aelodau enwocaf o'r gwarchodlu oedd Harald Hardrada, Brenin Norwy. Wedi'r goncwest Normanaidd yn Lloegr yn 1066, aeth nifer o Eingl-Sacsoniaid yn alltud i'r dwyrain, gan ymaelodi â'r Gwarchodlu Farangaidd. Parhaodd y gwarchodlu hyd at gwymp yr Ymerodraeth Fysantaidd i'r Bedwaredd Groesgad ym 1204.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Katherine Holman, Historical Dictionary of the Vikings (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2003), tt. 275–6.