Y Gwyliedydd Americanaidd
Newyddiadur Cymraeg oedd Y Gwyliedydd Americanaidd, a gyhoeddwyd o 1854 hyd 1858 ar gyfer y Cymry yn America.
Enghraifft o'r canlynol | papur newydd |
---|---|
Iaith | Cymraeg |
Cychwynnwyd y newyddiadur hwn yn nechrau'r flwyddyn 1854 gan Y Cwmni Cymreig, dan olygyddiaeth y Parch. Robert Littler, South Trenton, Efrog Newydd, a dilynwyd ef fel golygydd gan y Parch. Morgan A. Ellis o Utica, Efrog Newydd. Yr argraffydd oedd Evan E. Roberts, Utica. Unwyd ef yn y flwyddyn 1855 â'r Drych ond rhoddwyd y teitl i fyny yn gyfan gwbl yn niwedd y flwyddyn 1858. Ei bris oedd doler y flwyddyn.[1]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ T. M. Jones (Gwenallt), Llenyddiaeth fy Ngwlad, sef hanes y newyddiadur a'r cylchgrawn Cymreig... (Treffynnon, 1893), tud. 206.