Y Marchog Crwydrad
Testun pabyddol yn perthyn i ysgol Morgannwg o ymlynwyr ac ysgolheigion Pabyddol ail hanner yr 16g yw Y Marchog Crwydrad. Cyfieithiad ydyw o The voyage of the wandering knight, a gyfieithwyd yn ei dro gan William Goodyeare o waith Ffrangeg Le voyage du chevalier errant (1557) gan Jean de Cartigny. Mae'r testun ar glawr mewn nifer o gopïau mewn llawysgrif, y cynharach ohonynt, yn Llawysgrif Llanstephan 178, yn dyddio o tua 1585. Mae'n debyg iddo gael ei gyfieithu o argraffiad 1581 cyfieithiad Goodyeare.
Llyfryddiaeth
golyguCeir rhan agoriadol y testun yn,
- T. H. Parry-Williams (gol.), Rhyddiaith Gymraeg, Y Gyfrol Gyntaf[:] Detholiad o Lawysgrifau 1488-1609 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1954).
Cyhoeddwyd y testun llawn gyda astudiaeth arno a'i gefndir yn,
- D. Mark Smith, Treigl y Marchog Crwydrad (Gwasg Prifysgol Cymru, 2006)