Y Porth (llwyfan e-ddysgu)

Llwyfan e-ddysgu ydy'r Porth, sy'n galluogi prifysgolion Cymru i rannu adnoddau (cyfrwng Cymraeg) yn genedlaethol, a dysgu modiwlau prifysgol ar y cyd gan ddefnyddio'r technolegau e-ddysgu diweddaraf.[1]

Datblygwyd yr holl adnoddau a modiwlau ar y Porth gan brifysgolion Cymru trwy nawdd a chydweithrediad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol (a'r Ganolfan Addysg Uwch cyn Ebrill 2011). Mae datblygiadau sylweddol wedi bod yn y sector, ac mae'r Porth yn ganolog i'r holl ddatblygiadau yn y sector Addysg Uwch cyfrwng Cymraeg.

Mae'r Porth yn rhan hanfodol o weledigaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o greu cymuned academaidd Gymraeg lle y gall myfyrwyr fanteisio ar addysg brifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg o'r safon uchaf, a hynny am ddim dros y we neu ar ffurf llyfrau printiedig a ellir eu prynnu.

Gweler hefyd golygu

  • Gwerddon: Cylchgrawn Cymraeg academaidd a gyhoeddir ar y we.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan y Porth Archifwyd 2013-05-23 yn y Peiriant Wayback.; adalwyd 19 Ionawr 2013