Y Pypedau
Drama lwyfan gan Urien Wiliam yw Y Pypedau a enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dyffryn Clwyd 1973. Enillodd hefyd yng nghystadleuaeth cyfansoddi drama hir Cymdeithas y Ddrama Gymraeg, Abertawe yr un flwyddyn.[1] Llwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru ym 1974. Cyhoeddwyd y ddrama gan Wasg Christopher Davies ym 1976.
Awdur | Urien Wiliam |
---|---|
Cyhoeddwr | Gwasg Christopher Davies |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1976 |
ISBN | 07154 0276 5 |
Genre | Dramâu Cymraeg |
Disgrifiad byr
golygu"Amlinellir byrdwn a neges y ddrama gan yr awdur yn ei Ragair cryno. Dywed am y tueddiad cyfoes diweddar ymhlith rhai seicolegwyr i roi "pwyslais mawr ar y dylanwadau etifeddol sy'n effeithio bywydau dynion" ac am y modd y dadleuir "fod tueddiadau greddol ynghyd â phrofiadau cenedlaethau dirifedi o ddynion yn cyfuno â'i gilydd i ffurfio dylanwadau aruthrol ar yr unigolyn. Cam rhesymegol nesaf y dramodydd yw gofyn: "os yw dyn yn gaeth i'w dueddiadau greddfol ac i brofiadau'r hîl i ba raddau y mae e'n gyfrifol am ei weithredoedd ei hun?" A dyna yw prif fyrdwn y ddrama hon yn ôl yr awdur:"[1]
"Ymhle mae'r cyfrifoldeb yn gorffwys mewn gwirionedd? Ydy ewyllys rydd yn bosibl i ddyn? Ydy dyn yn rhywbeth amgenach na dol heb linynnau. [...] Drama chwyldroadol yw hon yn y Gymraeg felly, drama sydd hefyd yn brofiad theatrig cyffrous ac unigryw."[1]
Cymeriadau
golyguCynyrchiadau nodedig
golyguLlwyfannwyd y ddrama gan Gwmni Theatr Cymru ym 1974.