Y Rei
Band roc Cymraeg o ardal Porthmadog a Phenrhyndeudraeth oedd Y Rei.
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Cefndir
golyguFfurfiwyd y band yn 2006 pan ymunodd Aron Elias (prif leisydd a gitâr flaen), gynt o’r band hip hop Pep Le Pew, efo Rich Roberts (gitâr fâs) a Alex Moller (drymiau) o’r band roc Gola Ola i ffurfio band tri-darn.
Cerddoriaeth
golyguRoedd arddull cerddoriaeth wedi ei ddylanwadu’n gryf gan roc, metal, reggae a hip hop ond roedd ganddynt sŵn unigryw wedi’i nodweddu efo gallu technegol arbennig [1].
Gwnaeth Y Rei gigio yn helaeth o amgylch Cymru, gan gynnwys cwblhau dwy daith C2 ac ymddangos mewn sawl gŵyl gerddorol yng Nghymru rhwng 2007 a 2009 gan gynnwys Gwyl Câr Gwyllt, Blaenau Ffestiniog a Maes B. Gwnaethant ymddangos ar y rhaglen gerddoriaeth Bandit sawl gwaith.[1] Rhyddhasant EP ar ddiwedd 2006 ac albwm o’r enw Lawr y Lôn Goch ym mis Ionawr 2008.
Ysgrifennwyd y mwyafrif o’u caneuon yn y Gymraeg, gydag ambell gân Saesneg yn ymddangos yn eu setiau hefyd.
Disgograffiaeth
golygu- Psycho Prydferth (EP) (Blw-Print, 2006)
- Lawr y Lôn Goch (LP) (Blw-Print, 2008)
Cyfeirinodau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Tudalen Bandit am Y Rei". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-07. Cyrchwyd 2011-04-11.